Cofio pwll padlo Aberystwyth yn ei anterth yn 1969

Mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau y bydd pwll padlo ar y prom yn Aberystwyth yn cael ei lenwi a'i droi yn lle i eistedd.

Mae gan lawer o bobl y dref, yn ogystal ag ymwelwyr, atgofion melys o chwarae yn y pwll padlo, ond mae'n un o bleserau diniwed plentyndod na fydd ar gael mwyach - ddim am y tro beth bynnag.

Mae'r cyngor yn dweud bod unrhyw gynllun i ail-greu pwll arall yn y dyfodol yn dibynnu ar y gwaith sydd angen ei wneud i amddiffyn y prom rhag y môr.

Mae'r fideo hwn o wyliau teulu yn dangos y pwll a'r prom yn eu hanterth 'nôl yn 1969.