Diwedd cyfnod i bwll padlo prom Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cofio pwll padlo Aberystwyth yn ei anterth yn 1969

Mae gan lawer o bobl Aberystwyth, yn ogystal ag ymwelwyr â'r dre, atgofion melys o chwarae yn y pwll padlo ar y prom.

Ond mae'n un o bleserau diniwed plentyndod na fydd ar gael mwyach - ddim am y tro beth bynnag.

Mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau y bydd y pwll padlo yn cael ei lenwi a'i droi yn lle i eistedd, a bod unrhyw gynllun i ail-greu pwll arall yn y dyfodol yn dibynnu ar y gwaith sydd angen ei wneud i amddiffyn y prom rhag y môr.

Y gred yw i'r pwll presennol gael ei agor gyntaf ym 50au'r ganrif ddiwethaf, i gymryd lle un blaenorol ger y castell gafodd ei ddinistrio yn storm fawr 1938.

Mae'r ail un nawr wedi'i ddifetha gan stormydd, gyda nerth y tonnau yn taro wal y prom ac yn torri seiliau'r pwll.

Disgrifiad o’r llun,

Mae seiliau'r pwll wedi eu difrodi gan stormydd

Does dim dŵr ynddo, ond mae'r pwll yn llawn atgofion melys i lawer, gan gynnwys i Richard Griffiths, perchennog gwesty'r Richmond ar y prom.

"Roedd mam-gu yn cymryd ni yna fel plant," meddai Mr Griffiths. "A byddwn ni yna trwy'r dydd yn lolian o gwmpas yn y pwll padlo tra bod hi yn eistedd ar y fainc yn siarad gyda hen gymeriadau roedd hi'n nabod."

Er yr atgofion, mae Mr Griffiths yn cytuno gyda phenderfyniad y cyngor i gau'r pwll.

"Rhaid bod yn realistig iawn o ran cyllid a'r hyn sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol," meddai.

"Ry'n ni'n gwybod bod angen i'r cyngor wario shwd gymaint o arian ar bethau, yn enwedig ar sea defences, ac mae hyn yn rhan o'r arfordir sy'n cael ei drwsio'n aml, felly mae'n rhaid bod yn realistig gydag arian a'i drwsio fe wrth fynd ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwll wedi bod yn cynnig adloniant i genedlaethau o blant

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Mae cynlluniau ar waith i wneud gwelliannau yn yr ardal lle arferai'r pwll padlo fod i greu rhagor o leoliadau eistedd ar hyd y prom.

"Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar yr hen dywod a'r rheiliau, lefelu a rhoi palmant yn ardal y pwll a gosod rhagor o seddi yno.

"Gan fod nifer yr ymwelwyr yn uchel eleni a rhagor o fusnesau yn elwa o gael masnachu ar lan y môr, bydd mwy o bobl nawr yn gallu cefnogi busnesau lleol a mwynhau'r olygfa arfordirol arbennig am fwy o amser.

"Datrysiad dros dro yw hyn ac ystyriwyd y byddai'n well gwella'r ardal gyda seddi ychwanegol yn hytrach na'i adael mewn cyflwr gwael.

"Byddai unrhyw beth mwy sefydlog yn dibynnu ar ddyfodol gwaith amddiffynfeydd y môr."

Roedd y pwll padlo yn rhan o oes wahanol, pan fydd reidiau ar asynnod yn gyffredin ar y prom, castell bownsio a thrampolinau a Neuadd y Brenin - sydd bellach wedi dymchwel - yn ei anterth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Will Troughton fod y pwll yn denu pobl i'r dre yn y 60au

Mae Will Troughton, curadur ffotograffiaeth yn y llyfrgell genedlaethol, yn gyfarwydd â hen ffilm o 1969 o brom Aberystwyth yn dangos y cyfnod hwnnw.

"Ffilm deuluol yw hi mae rhywun wedi gwneud o'u gwyliau yn Aberystwyth yn dangos y plant yn y pwll nofio yn mwynhau, pobl yn cerdded ar hyd y prom," meddai.

"Mae'n hyfryd gweld Aberystwyth 'nôl yn y 60au. Mae'n rhan o'r traddodiad, ac yn tynnu pobl mewn i Aberystwyth."

Ymdrechion aflwyddiannus

Lle i chwarae mewn tywod sydd wedi bod yn y pwll padlo dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'n debyg nad yw'r pwll yn dal dŵr bellach oherwydd y difrod i'w seiliau gan sawl storm. Fe fydd plant yn gweld eisiau'r pwll yn ôl Sharon Jones ac Alaw Griffiths, mamau i blant yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Dywedodd Ms Jones: "Buon ni'n mynd yn ystod gwyliau'r haf, neu ar benwythnosau - mynd am dro ar y prom ac roedd y pwll padlo yno ar gael, gallu cwrdd fyny gyda ffrindiau a'r plant yna'n gallu cael hwyl."

"Mae isio rhoi mwy o hyder i'r plant yma", meddai Ms Griffiths. "Da ni'n byw reit wrth ymyl y môr, reit wrth sawl afon. Mae e jyst yn siomedig rili."

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol mae Ceredig Davies, cynghorydd canol tref Aberystwyth, yn dweud bod sawl ymdrech aflwyddiannus wedi'u gwneud i atgyweirio'r pwll, a'r flaenoriaeth nawr yw ceisio cryfhau'r prom ar ei hyd, sy'n rhan o'r amddiffynfeydd yn erbyn lefel y môr sy'n codi.

Fe fydd y gwaith hwnnw'n costio miliynau, ac mae'n bosib y bydd modd cynnwys pwll o ryw fath fel rhan o'r cynlluniau.

Pynciau cysylltiedig