Cwsmer 'wedi poeri' ar weithwyr siop ym Mhorthmadog

Mae cynnydd yn nifer y gweithwyr sy'n dweud fod pobl yn gweiddi arnynt ac yn gwrthod dilyn rheolau coronafeirws yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod unrhyw fath o gamymddwyn tuag at staff yn "gwbl annerbyniol".

Yn ôl un perchennog siop o ardal Porthmadog, pan ofynnodd hi i gwsmer ddilyn y rheolau fe wnaeth yr unigolyn boeri yn ei hwyneb a rhegi.

Mae siop lyfrau Browsers wedi bod wrthi ers dros 40 o flynyddoedd ond dywed y perchennog, Sian Ellen Cowper, fod yr heriau diweddaraf wedi bod ymysg yr anoddaf.