Camdriniaeth gweithwyr siopau yn 'gwbl annerbyniol'
- Cyhoeddwyd
Mae yna enghreifftiau "gwbl annerbyniol" o weithwyr mewn siopau yn cael eu cam-drin wrth geisio annog cwsmeriaid i ddilyn rheolau coronafeirws.
Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru, mae cynnydd yn y nifer o weithwyr sy'n dweud fod pobl yn gweiddi arnynt ac yn gwrthod dilyn rheolau.
Yn ôl un perchennog siop o ardal Porthmadog, pan ofynnodd hi i gwsmer ddilyn y rheolau fe wnaeth yr unigolyn boeri yn ei hwyneb a rhegi.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod unrhyw fath o gamymddwyn tuag at staff yn "gwbl annerbyniol".
Erbyn hyn, mae'n rhaid i bawb - oni bai bod gennych reswm meddygol - wisgo mwgwd, defnyddio glanweithydd dwylo a cheisio cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol mewn siop.
Ond mae nifer o staff wedi dweud wrth BBC Cymru bod nifer o gwsmeriaid yn gwrthod dilyn y rheolau hynny a phan mae staff yn gofyn, mae'r sefyllfa yn gallu troi'n gas.
'Pobl yn flin ac yn gweiddi'
Mae siop lyfrau Browsers wedi bod yn gwerthu ar stryd fawr Porthmadog ers dros ddeugain mlynedd ond fe gyfaddefodd y perchennog, Sian Ellen Cowper, fod yr heriau diweddaraf wedi bod ymysg yr anoddaf.
"Mi oeddwn i'n disgwyl 'sa ni yn agor mewn awyrgylch lle mae pobl yn gwybod be sy'n cael ei ddisgwyl a bod pobl yn cadw at y rheolau... Ond nid dyna 'da ni wedi ffeindio.
"Mi wnaethom ni ddechrau gydag wyth yn y siop. Da ni rŵan lawr i bedwar ac oherwydd bod 'na gymaint yn dod mewn heb lanhau eu dwylo a heb fasg a phobl sydd ddim yn dangos parch at eraill, da ni rŵan wedi gorfod rhoi rhaff ar draws y drws drwy'r adeg a 'dan ni'n gwahodd pobl i ddod mewn."
Pan mae aelodau o staff yn gofyn i gwsmeriaid y siop lyfrau i gadw at y rheolau, mae Ms Cowper yn dweud fod cwsmeriaid yn gallu troi yn gas wrth gael eu herio.
"'Da 'ni'n gweld bod o leiaf 80% o bobl, 'da ni'n gorfod gofyn iddyn nhw olchi eu dwylo.
"Ond pan da ni yn gofyn, 'da ni'n cael lot o bobl yn troi yn amharchus yn ofnadwy ac yn flin ac yn gweiddi.
"'Da ni wedi cael rhywun yn poeri arnom unwaith hefyd gan rywun sydd wedi cymryd offence ar ôl inni ofyn."
Mae Ms Cowper yn cydnabod bod ei siop yn cymryd y rheolau o ddifri gan ddweud does dim grey area oherwydd salwch yn y teulu ac unigolion bregus.
Er hyn mae 'na dystiolaeth bellach fod staff busnesau yn wynebu cam-drin wrth annog cwsmeriaid i gadw at y rheolau.
'Nerfus am y torfeydd'
"Ar y cyfan mae bob dim wedi bod reit dda ond ti yn cael un neu ddau sydd ddim isho gwisgo masgiau," meddai Paula Lesley sy'n berchen ar siop y Bocs Teganau ym Mhorthmadog.
"Mae nhw'n dweud 'da ni newydd olchi ein dwylo mewn siop arall', ond da ni'n dweud mae'n rhaid ichi wneud o yn fama - da ni'm yn gwybod lle mae pobl wedi cyffwrdd."
Tra bod y mwyafrif yn derbyn y rheolau mae Ms Lesley yn dweud bod rhai yn gwrthod.
"Mae rhai yn dweud bod hi'n hollol wirion bod yn rhaid ciwio mewn siop deganau ac yn mynd, ond ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid cadw ni'n saff."
Ar drothwy cyfnod yr haf mae Ms Lesley hefyd yn dweud ei bod hi'n teimlo'n "nerfus" am y torfeydd sy'n heidio hi i'r dref fel arfer.
Mae hi'n dweud y bydd yn rhaid iddi gyflogi un aelod arall o staff i fod wrth y drws yn ystod y cyfnod yma.
Dydi Ms Cowper a Ms Lesley ddim yn unigryw. Dywed Ffederasiwn y Busnesau bach eu bod nhw hefyd wedi gweld cynnydd yn y cwynion.
"Mae FSB Cymru wedi clywed enghreifftiau o agweddau o gam-drin gan gwsmeriaid tuag at staff," meddai'r Cadeirydd Polisi, Ben Francis.
"Ma'n hollol siomedig a 'da ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i atgoffa pobl am bwysigrwydd rhoi cymorth i gymuned busnes Cymru ac i ddangos y cymorth," meddai.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae "unrhyw gam-drin sy'n cael ei gyfeirio at staff sy'n helpu cadw cwsmeriaid yn ddiogel yn gwbl annerbyniol".
"Mae'r rheolau ar waith i gadw pawb yn ddiogel ac mae 'na gyfrifoldeb ar bawb i'w dilyn," medd datganiad.
Gyda phryderon am yr haf, mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw'n bwriadu codi rhagor o arwyddion i atgoffa pobl o'r rheolau ac y byddan nhw ar gael i gynnig rhagor o gefnogaeth i fusnesau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020