Oriel: Cefnogwyr nôl i gêm ddarbi Penrhyncoch v Bow Street

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf ers misoedd roedd cefnogwyr ardal Aberystwyth yn gallu dod i wylio eu timau'n chwarae mewn gêm gyfeillgar rhwng Penrhyncoch a Bow Street ar Gae Baker nos Iau, 1 Gorffennaf.

Roedd y niferoedd wedi eu cyfyngu i 100 ac roedd rhaid iddyn nhw gadw at reolau diogelwch Covid ond mae'n amlwg o luniau Colin Ewart bod pawb wedi mwynhau bod nôl.

Y canlyniad oedd Penrhyncoch 3 - Bow Street 0, ond roedd yn fuddugoliaeth i drefnwyr a chefnogwyr y ddau dîm wedi misoedd o aros.

Bwrdd wrth ochr y cae gyda diheintydd arnoFfynhonnell y llun, Colin Ewart
Disgrifiad o’r llun,

Y cae, y ffurflenni meddygol a'r diheintydd yn barod

Swyddogion a dyn yn arwyddo wrth ddod mewnFfynhonnell y llun, Colin Ewart
Disgrifiad o’r llun,

Y Cadeirydd, Kevin Jenkins, yn dangos i'r cefnogwyr sydd wedi dod i wylio pa ffurflenni i'w harwyddo

Mesur tymheredd dynFfynhonnell y llun, Colin Ewart
Disgrifiad o’r llun,

Mesur tymheredd Mr Richie Jenkins cyn iddo ddod i mewn

Dyn a dynes yn cyrraedd a rhoi manylionFfynhonnell y llun, colin ewart
Disgrifiad o’r llun,

Rhoi manylion meddygol cyn cael eu gadael drwy'r giât

Dyn mewn masg yn edrych ar y cameraFfynhonnell y llun, colin ewart
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Charlie i weld ei ŵyr Harri Horwood yn chwarae i Benrhyncoch

Taclo ar y caeFfynhonnell y llun, Colin Ewart
Disgrifiad o’r llun,

Tom Evans o Benrhyncoch a Sion Ewart o Bow Street yn brwydro am y bêl

Taclo ar y caeFfynhonnell y llun, Colin Ewart
Disgrifiad o’r llun,

Taylor Watts yn herio am y bêl gyda Steffan Richards a Gwion ap Dafydd

Llimanwr yn codi banerFfynhonnell y llun, Colin Ewart
Disgrifiad o’r llun,

Allan! Adrian Evans y llumanwr yn codi'r faner.

swyddog a chefnogwyr mewn masgiau gyda bwyd o McdonaldsFfynhonnell y llun, Colin Ewart
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r criw yma wedi dod â bwyd efo nhw i'w cadw'n hapus!

Cymeryd tymhereddFfynhonnell y llun, colin ewart
Disgrifiad o’r llun,

Hyd yn oed mewn mwgwd mae modd gweld fod Rhys Evans yn gwenu - rhaid ei fod wedi pasio'r prawf tymheredd

Chwaraewr yn trin y bêlFfynhonnell y llun, Colin Ewart
Disgrifiad o’r llun,

Owen Roberts-Young yn trin y bêl

Rheolwr yn gweiddi o ochr y caeFfynhonnell y llun, colin ewart
Disgrifiad o’r llun,

Aneurin 'Freddie' Thomas, rheolwr Penrhyncoch, yn gweiddi ar ei dîm

Swyddog yn rhoi arwyddion gyda'i freichiauFfynhonnell y llun, colin ewart
Disgrifiad o’r llun,

Tony Holmes yn rhoi cyfarwyddiadau

Dyn mewn masg a phaned o goffi yn edrych yn hapusFfynhonnell y llun, colin ewart
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r coffi a'r achlysur yn amlwg yn gwneud Jamie Walker yn hapus

Dau gefnogwr yn cerdded wrth ochr y caeFfynhonnell y llun, colin ewart
Disgrifiad o’r llun,

Mathew Jones ac Alex Pennock yn mwynhau cerdded o amgylch y cae unwaith eto

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig