Simon Glyn: 'Gymaint o bobl yn cyhuddo fi o fod yn hiliol'
Mae un o sylfaenwyr mudiad Cymuned wedi siarad am y tro cyntaf am ei ofn yn dilyn bygythiadau yn ystod y cyfnod - 20 mlynedd union ers ei sefydlu.
Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw i nodi dyddiad cyfarfod cyhoeddus cyntaf y grŵp, mae'r cynghorydd Simon Glyn hefyd yn trafod ei bryder mai nawr ydy'r cyfle olaf i achub cymunedau Cymraeg.
"Mi roedd o'n gyfnod anodd yn bersonol i mi - roedd gen i ofn mynd i gysgu ar un adeg," meddai Simon Glyn.
"Roedd pobl asgell dde eithafol yn Lloegr yn anfon llythyrau i mi efo bob math o luniau yn dangos fy mhen i'n disgyn i ffwrdd, a gynnau ac yn y blaen a finnau'n cael fy saethu.
"Roedd gen i ofn yn bersonol, a dwi heb gyfadde' hynny tan rŵan, ac roedd gen i ofn dros fy nheulu ar y pryd."