Aelod blaenllaw yn cofio sefydlu Cymuned 20 mlynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
20 mlynedd ers sefydlu'r mudiad Cymuned, mae un o'i sylfaenwyr yn siarad am y tro cyntaf am ei ofn yn dilyn bygythiadau yn ystod y cyfnod a sut wnaeth cefnogaeth ei gynnal.
Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw i nodi dyddiad cyfarfod cyhoeddus cyntaf y grŵp, mae'r cynghorydd Simon Glyn hefyd yn trafod ei bryder mai nawr ydy'r cyfle olaf i achub cymunedau Cymraeg.
A dywed aelod blaenllaw arall o'r mudiad, yr Athro Jerry Hunter, ei bod yn haws trafod effaith mewnfudo economaidd a thai haf heddiw heb gyhuddiadau o hiliaeth oherwydd y gwaith gafodd ei wneud dau ddegawd yn ôl.
Cafodd Cymuned ei sefydlu ar ôl beirniadaeth chwyrn gan rai gwleidyddion a newyddiadurwyr i sylwadau'r cynghorydd Simon Glyn mewn rhaglen radio.
Fe gafodd ei gyhuddo o ddefnyddio iaith ymfflamychol wrth drafod ail gartrefi ac o fod yn hiliol yn erbyn Saeson - cyhuddiad gafodd ei ddiystyru wedi ymchwiliadau gan Heddlu Gogledd Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb Hil.
Arweiniodd y ffrae a'r pryder cynyddol am effaith prisiau tai ar ddyfodol cymunedau at sefydlu mudiad i geisio eu hamddiffyn.
Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus cyntaf Cymuned yn neuadd bentref Mynytho, Pen Llŷn, ar 7 Gorffennaf 2001, dolen allanol.
Bygythiadau
"Mi roedd o'n gyfnod anodd yn bersonol i mi - roedd gen i ofn mynd i gysgu ar un adeg," meddai Simon Glyn.
"Roedd pobl asgell dde eithafol yn Lloegr yn anfon llythyrau i mi efo bob math o luniau yn dangos fy mhen i'n disgyn i ffwrdd, a gynnau ac yn y blaen a finnau'n cael fy saethu.
"Roedd gen i ofn yn bersonol, a dwi heb gyfadde' hynny tan rŵan, ac roedd gen i ofn dros fy nheulu ar y pryd.
"Roedd y casineb yna yn gwneud bywyd yn anesmwyth ond roedd y cyffro ddigwyddodd ym Mynytho yn gorchfygu'r ofn.
"Mi ges i'r hyder achos roedd fy nghyd-Gymry yn sefyll 'efo fi a ro'n i'n teimlo mai un o'n i o filoedd yn hytrach nag un ar ben ei hun.
"Do'n i'm yn meddwl y basa yna ffasiwn deimlad o gydymdeimlad ymysg y Cymry Cymraeg a'r teimlad bod rhywun yn cael cam. Hynny oedd yn cynnal fi ar y pryd."
Aelod blaenllaw arall o Cymuned oedd yr Athro Jerry Hunter a aeth i Genefa ddwywaith i roi tystiolaeth i'r Cenhedloedd Unedig am effaith mewnfudo economaidd a thai haf ar gymunedau Cymraeg.
Roedd o a'i wraig Judith Humphreys, sydd bellach yn gynghorydd Gwynedd, yn ymchwilio ar ran y mudiad i hawliau grwpiau lleiafrifoedd eraill o gwmpas y byd.
"Doedd o ddim yn rhywbeth oeddwn i isio ei wneud, na Judith a bod yn onest, o ran bod yn llygad y cyhoedd achos roedd pethau reit ffiaidd yn y wasg ar y pryd," meddai.
"Ond eto roeddan ni'n dau yn teimlo bod o'n bwysig iawn, iawn a bod rhaid gwneud rhywbeth."
Mae'r academydd a'r awdur yn credu mai'r rheswm dros ymateb chwyrn rhai unigolion oedd sefyllfa ehangach gwleidyddiaeth yng Nghymru yn y cyfnod.
Roedd yn ddyddiau cynnar i'r broses datganoli a Phlaid Cymru wedi cael llwyddiant yn etholiadau'r Cynulliad gan gynnwys cipio sedd yn un o gadarnleoedd Llafur, Islwyn.
"Roedd y Blaid Lafur Cymreig wedi dychryn gan lwyddiant Plaid Cymru ac felly aeth y Blaid Lafur ati i weithio gyda'r Welsh Mirror a'i ddefnyddio fel cyfrwng i bardduo Plaid Cymru," meddai.
"Wrth gwrs un ffordd o wneud hynny oedd cysylltu'r blaid gyda'r iaith Gymraeg ac mi gyhoeddwyd pethau ffiaidd am y Gymraeg a siaradwyr Cymraeg ac ymgyrchwyr iaith yn y Welsh Mirror felly roedd yr awyrgylch yn fileinig."
Dros y blynyddoedd fe ddatblygodd y mudiad i brotestio yn erbyn cwmnïau oedd ddim yn defnyddio'r Gymraeg, picedu arwerthwyr tai yng Nghymru, Caer a Llundain a hyrwyddo'r Gymraeg i bobl oedd ar eu gwyliau.
Diwedd Cymuned
Yn ôl yr Athro Jerry Hunter fe waniodd y mudiad ar ôl anghytuno am y ffordd ymlaen gyda rhai am iddo barhau fel mudiad lobïo, rhai eisiau newid cyfeiriad i brotestio di-drais ac eraill am sefydlu plaid wleidyddol.
Daeth Cymuned i ben ar ôl sawl blwyddyn a cholli cyfle, meddai, i elwa o'r gefnogaeth ar lawr gwlad gan bobl oedd erioed wedi ymgyrchu'n wleidyddol o'r blaen.
Un o brif lwyddiannau'r mudiad oedd normaleiddio'r drafodaeth, meddai.
"Roedd pethau fel mynd i'r Cenhedloedd Unedig yn Genefa... a chael cadeirydd y grŵp gweithredol dros hawliau lleiafrifoedd i gydnabod bod yr hyn oedd yn digwydd efo'r mewnlifiad a'r argyfwng tai yn broblem go iawn i leiafrifoedd a chael math yna o gydnabyddiaeth gan awdurdod ar lefel rhyngwladol yn hollbwysig," meddai.
"Mae pobl rŵan yn cydnabod yr argyfwng ac yn fodlon ei drafod ac mae'n bosib sôn am hyn heb i rywun dy bardduo a dy alw yn ffasgydd neu rywbeth.
"Dwi'm yn clywed neb yn cyhuddo pobl sy'n sôn am ail gartrefi yng Ngwynedd fel problem heddiw o fod yn ffasgwyr neu radicaliaid peryglus."
Gadawodd Simon Glyn y mudiad a sefydlu Llais Gwynedd yn 2007 er mwyn ymgyrchu yn erbyn polisi'r cyngor sir o gau ysgolion gwledig. Mae'r cynghorydd wedi ail-ymuno gyda Phlaid Cymru ers 2015.
Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi eu cynlluniau i fynd i'r afael â'r sefyllfa dai yn dilyn comisiynu adroddiad gan Dr Simon Brooks, un o sylfaenwyr Cymuned.
Eu bwriad ydy dewis ardal i dreialu peilot o'r newidiadau maen nhw'n ystyried, sy'n cynnwys newidiadau i drethi lleol a rheolau cynllunio.
Dyw Simon Glyn ddim yn meddwl bod hyn yn mynd yn ddigon pell.
"Dwi'n siomedig o'r diffyg dewrder, maen nhw'n mynd i dreialu mewn ardal ond mi ryda ni angen rhywbeth pendant rŵan, dim treialu. Mae angen derbyn yr argymhellion i gyd sydd yn yr adroddiad," meddai.
Wrth gofio yn ôl i 2001, tydi o ddim yn difaru defnyddio "iaith blaen" yn ei gyfweliad radio am y sefyllfa dai gan fod hynny wedi dod â sylw i'r sefyllfa.
"Mi roedd o'n gyfnod anodd ond mi roedd yn gyfnod pwysig ac oherwydd y cyfnod hynny mae'n haws heddiw," meddai.
"Ond fydd yna ddim cyfle arall mewn cenhedlaeth arall - fydd rhaid i ni neud o rŵan.
"Ryda ni mewn argyfwng rŵan. Nid yn unig argyfwng tai ond o warchod ein hetifeddiaeth, diwylliant ac iaith."