Ail gartrefi: Mater yn "fwy cymhleth na chodi treth"
Mae Abersoch bellach yn dref ble mae tua 39% o'r tai yno yn ail gartrefi, sefyllfa sy'n dod yn gynyddol gyffredin mewn sawl rhan o Gymru.
Ond yn ôl un cynghorydd lleol mae'r atebion yn "fwy cymhleth" na chodi trethi arnynt, gyda'r angen i edrych ar sicrhau mwy o dai fforddiadwy i bobl leol hefyd yn rhan o'r ystyriaeth.
Ac mae un sy'n cynrychioli perchnogion ail gartrefi wedi dweud eu bod yn teimlo dan bwysau oherwydd yr agweddau tuag atynt, a bod trethi uwch yn mynd i gosbi llawer o "bobl gyffredin" sydd berchen ail dai.