Rheolau ail dai yn 'annheg' ac 'afresymol' i berchnogion
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion ail gartrefi yng Nghymru yn teimlo eu bod nhw'n cael eu trin yn "annheg" ac yn "afresymol".
Yn ôl rhai perchnogion ail dai fu'n siarad â BBC Cymru, mae'r pwnc yn "llawer mwy cymhleth" nag y mae rhai yn cyfaddef.
Maen nhw'n galw ar awdurdodau lleol i beidio â chynyddu rhagor ar dreth y cyngor, a hefyd ar Lywodraeth Cymru i drafod polisïau gyda nhw.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud mai "tegwch sydd wrth wraidd eu cynlluniau" a'u bod yn bwriadu codi "20,000 o dai fforddiadwy carbon isel" dros dymor y Senedd nesaf.
'Dydy o ddim yn gyfartal'
Ers dechrau'r pandemig mae'r pryder am ail gartrefi wedi cynyddu, gydag adroddiadau o dai yng Nghymru'n cael eu prynu fel llety gwyliau.
O ganlyniad i hynny mae BBC Cymru wedi clywed droeon am drigolion sy'n dweud ei bod hi'n anodd os nad yn amhosib prynu tŷ yn eu bro.
Ond mae rhai perchnogion ail dai yn teimlo eu bod nhw'n cael y bai am fethiannau'r awdurdodau i adeiladu tai fforddiadwy, gyda rhai yn dweud fod y system ar hyn o bryd yn annheg.
Mae gan awdurdodau lleol yr hawl i gynyddu treth y cyngor ar ail gartrefi i hyd at 100% yn ychwanegol.
Mae Jonathan yn rhannu ei amser rhwng ei dŷ yn Lloegr a'i dŷ yng Ngwynedd.
Ond mae'n poeni fod cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ail gartrefi yn annheg.
"'Da ni'n teimlo ein bod ni'n cael ein gwahaniaethu ar sail y ffaith bod gennym ni ail dŷ," meddai.
"Iddyn nhw [yr awdurdodau] ddweud wrthym ein bod ni mewn tai tebyg i bobl drws nesa' ond bod ni'n gorfod talu treth mwy - mae hynny yn wahaniaethu.
"Dydy o ddim yn gyfartal a dydy o ddim yn gyfiawnder cymdeithasol chwaith."
Mae Jonathan yn dweud ei fod o'n gweithio gyda nifer fawr o berchnogion ail gartrefi eraill er mwyn ceisio lleddfu'r pwysau sy'n dod gan yr awdurdodau.
"Mae pawb dwi'n siarad 'efo yn caru Cymru. Yn caru'r iaith, y diwylliant a'r bobl ond 'da ni wedi cael ein cadw fel anifeiliaid gyda phobl yn dweud wrthym ein bod ni'n wahanol a bod ni'n gorfod talu mwy."
Un o'r cwynion eraill sydd gan berchenogion ail gartrefi ydy bod y system ar hyn o bryd yn llawer mwy cymhleth nag y mae rhai yn ei feddwl.
Mae Norman Closs Parry yn rhannu ei amser rhwng ei dŷ yn Nhreffynnon, Sir y Fflint a hefyd ei dŷ yn Fachwen ger Llanberis.
Fe wnaeth Mr Closs Parry etifeddu'r tŷ gan ei rieni ar ôl i'w deulu ei adeiladu yn 1876.
Mae o am weld Llywodraeth Cymru yn cofrestru unigolion sydd wedi etifeddu tai mewn categori gwahanol gan "nad yw'n ecsploetio'r ardal", meddai.
"Drwy hap a damwain teulu ydw i wedi etifeddu o," meddai.
"Fe ddes i adra un diwrnod 'efo ffrind ag yr oedd o yn arwerthwr a dyma fo'n dweud fy mod i'n eistedd ar ffortiwn oherwydd fysa' ti ddim yn gwerthu'r tŷ yng Nghymru.
"Tasa ti'n rhoi o yn y papurau priodol yn Lloegr fasa ti'n cael dy bres ond dwi ddim isio'r pres.
"Y cyfan dwi isio ydy cadw o yn rhan o'r traddodiad a rhoi o i'r teulu."
Yn ôl Mr Closs Parry ni fyddai gwerthu ei dŷ yn ateb y broblem o ddiffyg tai gan fyddai'r bwlch hwnnw yn cael ei lenwi gan bobl sydd â mwy o bres na phobl leol.
Mae hefyd yn mynnu ei fod yn rhan o'r gymdeithas leol wrth dreulio rhan o'i amser yno.
Yn ôl adroddiad gan Dr Simon Brooks ar ran Llywodraeth Cymru, dolen allanol fe awgrymwyd nad yw'r broblem o ail gartrefi yn un genedlaethol, gan mai dim ond rhai ardaloedd penodol y mae'r broblem yn effeithio arnynt.
Un o rheiny ydi plwyf Llanengan yng Ngwynedd, sy'n cynnwys Abersoch.
Yno mae dros 39% o dai yn ail gartrefi.
"Mae angen edrych ar gael tai fforddiadwy i'r ardal," meddai'r cynghorydd lleol, John Brynmor Hughes.
"Mae eisiau edrych ar lle mae eisiau'r tai yma.
"Oes 'na bobl leol sydd angen y tai yma? Pwy sydd wedi gwerthu'r tai yma a'r tir i adeiladu'r tai yma?
"Ydy mae'n gymhleth ond mae'n rhaid edrych adref cyn gwneud dim byd."
'Tegwch wrth wraidd polisïau'
Gyda Llywodraeth Cymru'n bwriadu dechrau ar gynllun peilot i fynd i'r afael â diffyg tai fforddiadwy, maen nhw'n dweud mai "tegwch sydd wrth wraidd eu polisïau".
Yn ôl llefarydd maen nhw eisiau sicrhau "fod pawb yng Nghymru â mynediad at dai fforddiadwy o ansawdd".
"Rydym yn gweithio'n gyflym i sicrhau strwythur cynaliadwy i fater cymhleth.
"Mi fyddwn yn adeiladu 20,000 o dai newydd, carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol erbyn diwedd tymor y Senedd, ac rydym yn annog pobl i ymgysylltu â ni yn ystod yr ymgynghoriad."
Tra bod y farn yn parhau yn gymysg, yr hyn sy'n glir yw bod 'na angen am weithredu er mwyn sicrhau tegwch i bawb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021