Disgyblion Glan Clwyd yn ymateb i'w canlyniadau TGAU

Cafodd mwy o ddisgyblion TGAU yng Nghymru y graddau uchaf eleni, yn ôl y canlyniadau swyddogol a gyhoeddwyd ddydd Iau.

Roedd 28.7% o'r graddau yn A neu A* - sy'n uwch na'r ddwy flynedd flaenorol - wrth i athrawon benderfynu ar raddau disgyblion wedi i arholiadau gael eu canslo oherwydd y pandemig.

73.6% o'r graddau oedd yn uwch na C, sydd tua'r un lefel â 2020.

Wrth i ddysgblion Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy dderbyn eu graddau swyddogol fore Iau, roedd llawer o drafod am y system wahanol o roi graddau.

Fe fuon nhw hefyd yn trafod effaith y pandemig ar eu haddysg, a beth ddylai ddigwydd wrth edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.