Athrawon i benderfynu graddau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Athrawon fydd yn penderfynu graddau TGAU, a Safon Uwch yng Nghymru yn hytrach na system o asesiadau oedd i fod i gymryd lle arholiadau diwedd blwyddyn.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams bod y pandemig yn parhau i waethygu a bod "dim dewis" ond peidio â pharhau gydag asesiadau dosbarth.
Bydd cael gradd gan yr ysgol neu goleg yn seiliedig ar y gwaith fyddan nhw wedi ei wneud yn "syml ac yn eglur" i ddisgyblion.
Cafodd y penderfyniad i ganslo arholiadau ei wneud ym mis Tachwedd, ond cafodd y system asesu allanol ei ddileu ar ôl cyhoeddiad y byddai ysgolion yn aros ar gau tan hanner tymor mis Chwefror.
Derbyniodd y gweinidog gyngor gan arweinwyr ysgolion a cholegau, a ddywedodd y dylai dysgwyr dderbyn graddau'n seiliedig ar "dystiolaeth o ddysgu".
Mae'r penderfyniad yn debyg i'r system o 'asesiadau gradd sy'n cael eu hasesu mewn canolfan' a gafodd ei weithredu yn haf 2020.
Mae'n golygu:
Bydd ysgolion a cholegau'n gallu defnyddio ystod o dystiolaeth i benderfynu graddau dysgwyr, yn cynnwys gwaith cwrs ac arholiadau ffug;
Bydd bwrdd arholi CBAC yn cynnig hen bapurau wedi'u haddasu i alluogi ysgolion i barhau i asesu disgyblion;
Gall ysgolion a cholegau gael mynediad i fframwaith asesiadau wedi'u gosod gan Gymwysterau Cymru, a bydd eu cynlluniau'n cael eu gwirio gan CBAC;
Ni fydd terfynau amser ar gyfer gwaith cwrs neu asesiadau eraill;
Bydd CBAC yn goruchwylio'r system, gan gynnig hyfforddiant i athrawon er mwyn bod yn "gyson, yn gyfiawn, ac yn deg";
Bydd y graddau yn cael eu cyflwyno i CBAC ac ni fyddant yn eu newid. Bydd apelion am raddau yn mynd i'r ysgol neu'r coleg;
Bydd dysgwyr ym mlwyddyn 12 hefyd yn derbyn gradd wedi'i ddethol gan ganolfan ond ni fydd hyn yn cyfrannu at radd Safon Uwch terfynol.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams ym mis Tachwedd byddai arholiadau diwedd blwyddyn yn cael eu canslo oherwydd bod effaith amrywiol Covid-19 ar wahanol ysgolion a disgyblion yn golygu nad oedd yn bosib sicrhau tegwch i bawb.
Dywedodd Ms Williams: "Mae sefyllfa'r pandemig yn gwaethygu ac mae hyn wedi golygu nad ydynt wedi cael dewis ond i newid ein cynllun er mwyn sicrhau lles a hyder cyhoeddus yn ein system cymwysterau.
"Mae'r cynigion rydyn yn cyhoeddi heddiw yn rhoi ymddiriedaeth mewn gwybodaeth athrawon a darlithwyr o waith eu dysgwyr, yn ogystal â'u hymrwymiad at roi blaenoriaeth i ddysgu yn yr amser sydd ar gael i gefnogi cynnydd dysgwyr."
Dywedodd Ms Williams ei bod yn gweithio gyda phrifysgolion ar sut i "ddarparu pont i mewn i gyrsiau prifysgol".
"Mae dysgu cynnwys ac agweddau craidd pob cwrs yn parhau i fod yn flaenoriaeth bendant ar gyfer dysgwyr yn eu blynyddoedd arholiad, fel eu bod yn cael eu cefnogi gyda sicrwydd i'w camau nesaf, a gyda hyder yn eu graddau," meddai.
Mae Betsy, sy'n 16 ac yn ddisgybl TGAU yn Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd, yn teimlo bod y cyfnod diweddar yn "heriol iawn", er iddi gael y profiad gorau posib o ddysgu ar-lein.
"Dwi'n ymddiried yn yr athrawon i benderfynu ein graddau," meddai.
"Dy'n ni ddim wedi cael yr addysg oedden ni i fod i gael dros y flwyddyn diwetha'.
"Fi'n meddwl bydde fe'n annheg mynd mewn i arholiad ac anghofio pethau, ddim yn gwybod pethau'n glir iawn ac felly os ydych chi'n cael y gradd rydych chi'n haeddu oherwydd y gwersi byw yna dwi'n meddwl bydd hynna'n fwy teg."
Yn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Prif Weithredwr CBAC Ian Morgan: "Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol, ac rydym yn deall bod angen asesu mewn ffordd wahanol yn 2021.
"Mae'n bwysig rhoi pob cyfle i ddysgwyr Cymru ddangos yr hyn y maen nhw'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.
"Yma mae gennym arbenigedd asesu o bob math, a bydd ein timau ni yn cynnig arweiniad a chefnogaeth o'r radd flaenaf i athrawon wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau a phrosesau yn ystod y flwyddyn eithriadol hon."
'Awyddus i osgoi ailadroddiad o'r haf ddiwethaf'
Dywedodd Undeb Addysg Genedlaethol Cymru (NEU) ei fod yn "falch" bod y system yn symud tuag at un "sydd â mwy o ymddiriedaeth mewn athrawon a darlithwyr".
Dywedodd aelodau gweithredol NEU Cymru, Mairead Canavan, Hannah O'Neill a Neil Foden: "Rydyn ni'n awyddus iawn i osgoi ailadroddiad o'r sefyllfa roedden ni ynddi yr haf diwethaf."
Ychwanegon nhw: "Rydyn ni wastad yn pryderi nad yw arholiadau'n adlewyrchu potensial pobl ifanc yn y system, ac rydyn ni'n hynod o falch nad oes cynlluniau i ddefnyddio algorithm annheg y flwyddyn hon."
Yn ôl cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru, Eithne Hughes, mae'r penderfyniad i gael gwared ar unrhyw elfen o arholi allanol gorfodol ac i gynnig adnoddau arall yn lle yn "ddatrysiad pragmatig".
Ychwanegodd bod y cyhoeddiad yn cymryd ychydig o'r ansicrwydd i ffwrdd o fyfyrwyr "wrth iddyn nhw symud mewn i dymor yr haf, gyda'r ffocws ar astudio parhaol, heb ots os ydyn nhw'n gallu bod yn yr ystafell ddosbarth yn gorfforol."
'Dim beth roeddwn yn gobeithio am'
Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru dywedodd Suzy Davies AS, llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg: "Er nad yw'r fframwaith hwn sydd wedi'i ddylunio gan CBAC yn beth y roeddwn yn gobeithio amdano, a dydy e ddim mor dda â rhaglen ffurfiol wedi'u gosod a'u marcio'n allanol, mae'n ymgais cadarn i gadw cysondeb ac ansawdd o ddim dim ond profi ond hefyd asesu.
"Er hyn, mae hefyd yn gydnabyddiaeth nad yw dysgu ar-lein yn ddigon da, er gwaethaf y sylabws llai a rhai enghreifftiau gwych o ysgolion yn gwneud yn wirioneddol dda - a bydd yn rhaid i ni aros wythnos gyfan cyn gallwn ni archwilio penderfyniad y Gweinidog."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021