Wythnos y Glas: Fydd hi'n flwyddyn well i fyfyrwyr?

Wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion Cymru'r wythnos hon mae 'na alw ar bobl i fod yn gall, ac i barchu rheolau Covid.

Mae'n bwysig i fyfyrwyr gael eu brechu a defnyddio profion llif unffordd, meddai'r Gweinidog Addysg wrth ymweld â chanolfan frechu wib i fyfyrwyr ddydd Iau.

Mae myfyrwyr yn gobeithio na fydd y pandemig yn tarfu ar eu hastudiaethau yn ystod y tymor academaidd eleni, ond mae yna bryderon a nerfusrwydd mewn rhai cymunedau wrth i Covid barhau.

Mae Tegwen Bruce-Deans yn dechrau ar ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor eleni, ac mae hi a'i ffrindiau yn gobeithio am dymor mwy sefydlog heb drafferthion Covid-19.