'Braf profi bywyd prifysgol iawn unwaith eto'
- Cyhoeddwyd
Wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion Cymru'r wythnos hon mae 'na alw ar bobl i fod yn gall, ac i barchu rheolau Covid.
Mae'n bwysig i fyfyrwyr gael eu brechu a defnyddio profion llif unffordd, meddai'r Gweinidog Addysg wrth ymweld â chanolfan frechu wib i fyfyrwyr ddydd Iau.
Mae myfyrwyr yn gobeithio na fydd y pandemig yn tarfu ar eu hastudiaethau yn ystod y tymor academaidd eleni, ond mae yna bryderon a nerfusrwydd mewn rhai cymunedau wrth i Covid barhau.
Dywed prifysgolion ac awdurdodau lleol eu bod yn cydweithio i sicrhau fod unigolion sydd eisiau derbyn brechlyn yn gallu gwneud hynny.
Prifysgol Bangor yw un o'r cyntaf yng Nghymru i groesawu myfyrwyr yn ôl i'r campws, ac yno mae yna edrych ymlaen at dymor academaidd mwy sefydlog - y flaenoriaeth yw cadw myfyrwyr yn ddiogel.
Mae rheolau eisoes wedi'u cyflwyno yng nghlwb nos Undeb y Myfyrwyr - mae'n ofynnol dangos naill ai prawf llif unffordd negatif diweddar neu brawf o ddau frechiad.
"Mae Bangor yn ardal ddinesig eithaf bach", meddai Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, UMCB, Mabon Dafydd.
"Mae angen inni reoli faint o bobl sy'n dod 'nôl a 'da ni fel prifysgol yn annog ein holl fyfyrwyr i gael y jabs i atal Covid-19.
"Hyn, er mwyn sicrhau diogelwch ein myfyrwyr ni - ni'n credu mai dyma'r ffordd orau i fynd ati."
Bydd Prifysgol Bangor ynghyd â phrifysgolion eraill Cymru hefyd yn cynnig 'Brechu Gwib' lle gall myfyrwyr sydd heb eu brechu dderbyn dos yn ystod eu hwythnosau cyntaf ar gampws.
Ar gampws Trefforest, Prifysgol De Cymru, mae mae myfyrwyr nyrsio yn rhoi brechiadau i fyfyrwyr sy'n penderfynu derbyn y brechlyn.
Wrth ymweld â'r safle brynhawn Iau dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ei fod yn gobeithio y bydd modd i fyfyrwyr ar draws Cymru gael profiad "mor normal â sy'n bosib eleni".
"Mae e wir yn bwysig i chi gael eich brechu ac mae'n bwysig i chi gofrestru gyda'ch GP a hefyd i gael profion.
"Mae'r pecyn cyfan yn bwysig wrth inni gyd ddod 'nôl i fywyd prifysgol y gorau gallwn ni.
"Dydyn ni ddim o bell ffordd drwy Covid ac ry'n ni angen bod yn sicr... mae disgyblion a myfyrwyr wedi treulio cyfnod hir heb fod ym myd ysgol a choleg a gan bod gennym ni'r brechlyn mae'n bwysig rhoi'r cyfle iddyn nhw fod 'nôl ym myd addysg.
"Mae'n prifysgolion wedi bod yn arloesol wrth addasu ac wedi bod yn hyblyg," ychwanegodd.
Wrth ymateb i'r cynnydd mewn achosion ymhlith pobl ifanc, dywedodd y gweinidog fod hynny i'w ddisgwyl ond bod tystiolaeth yn Yr Alban, sydd dair wythnos o flaen Cymru o ran y tymor academaidd, yn dangos fod achosion yn dechrau gostwng.
Dyma hefyd neges awdurdodau lleol Cymru sydd â phrifysgolion ynddynt.
Maen nhw'n awyddus i groesawu myfyrwyr yn ôl, ond am sicrhau bod hynny yn cael ei wneud mewn modd diogel.
"Dwi'n meddwl fod pobl yn falch o weld myfyrwyr yn ôl", meddai'r Cynghorydd Catrin Wager, o Gyngor Gwynedd.
"Ma' just angen atgyfnerthu'r negeseuon yna o wisgo masgiau, cadw pellter, ceisio cymdeithasu yn yr awyr agored a just trio gwneud y gorau fedrwn ni i gadw pawb yn saff."
Dywed Cyngor Gwynedd hefyd eu bod wedi bod yn cydweithio â Phrifysgol Bangor a'r bwrdd iechyd lleol i ddarparu cynllun brechu newydd.
Mae prifysgolion eraill Cymru, gan gynnwys Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, yn dweud eu bod nhw hefyd yn cynnwys sesiynau brechu tebyg a'u bod yn darparu gwybodaeth ar eu gwefannau.
'Braf cymdeithasu eto'
Mae Tegwen Bruce-Deans yn dechrau ar ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor.
Mae hi a'i ffrindiau yn gobeithio am dymor mwy sefydlog heb drafferthion Covid-19.
"Dwi mor mor falch fy mod i'n gallu mynd allan i'r clubs a'r pubs," meddai.
"Yn cael cymdeithasu unwaith eto a hynny 'efo pobl dwi heb weld yn iawn ers fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol ddwy flynedd yn ôl.
"Mae mor braf gweld myfyrwyr iau yn profi bywyd prifysgol yn iawn am y tro cyntaf. Dwi 'di gwneud yr ymdrech i fynd i gymaint o bethau wythnos y glas a sy'n bosib o wybod faint 'nes i golli!"
A hithau wedi derbyn dau ddos o'r brechiad mae hi'n gobeithio y bydd hynny yn sicrhau bywyd coleg ychydig yn fwy normal, meddai.
Dros yr wythnosau nesaf bydd Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol yn cadw llygad barcud ar gyfraddau'r feirws mewn safleoedd prifysgolion gyda myfyrwyr yn parhau i groesi bysedd am flwyddyn academaidd lai trafferthus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2021
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021