'Fi'n credu bod Tata wedi gweld bod rhaid i ni newid'

Mae cwmni Tata Steel, sy'n cyflogi 6,600 o weithwyr ym Mhort Talbot, Casnewydd, Llanelli a Shotton, yn dweud bod angen arweiniad gan Lywodraeth y DU cyn penderfynu sut bydd yn cynhyrchu dur yn y dyfodol.

Mae yna ansicrwydd ynghylch rôl y diwydiant - sy'n creu mwy o allyriadau carbon yn y DU nag unrhyw sector arall - o fewn economi newydd, wyrddach yn y dyfodol.

Er bod y cwmni eisoes wedi lleihau ei allyriadau, mae eto i benderfynu pa gamau pellach y dylid eu cymryd wrth anelu at fod yn garbon niwtral erbyn 2050.

Alun Thomas yw Rheolwr Technegol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot.