Angen 'llwybr clir' i gynhyrchu dur mwy carbon isel

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Alun Thomas o gwmni Tata Steel: 'Fi'n credu bod Tata wedi gweld bod rhaid i ni newid'

Mae cwmni Tata Steel yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddangos "llwybr clir" iddyn nhw allu penderfynu sut i barhau i gynhyrchu dur yn y dyfodol.

Y cwmni yw allyrrydd CO2 unigol mwyaf Prydain, ac mae yna gwestiynau dros sut y bydd yn addas ar gyfer economi wyrddach, newydd.

Byddai colli swyddi yn dalcen caled i gymunedau ym Mhort Talbot, Casnewydd, Llanelli a Shotton.

Mae'r cynhyrchydd dur eisoes wedi lleihau ei allyriadau ac mae eisiau mynd ymhellach o lawer, ond dydyn nhw ddim wedi penderfynu sut.

"Fi'n credu bod Tata wedi gweld bod rhaid i ni newid wrth fynd ymlaen," meddai Alun Thomas o Abertawe, Rheolwr Technegol safle'r cwmni ym Mhort Talbot.

"Erbyn 2050, bydd rhaid i ni fod yn garbon niwtral, ac erbyn 2030, mae rhaid i ni leihau ein carbon footprinto 30%, felly rydyn ni'n gwybod bod rhaid i ni wneud rhywbeth, a'i wneud yn gyflym."

Yn ôl Tata Steel ni all diwydiant yn unig ddatrys y broblem allyriadau carbon - mae'n rhaid cael partneriaeth gyda'r llywodraeth.

Mae ystod eang o opsiynau ar gael i gwmnïau sy'n cynhyrchu dur gan gynnwys defnyddio hydrogen, ffwrneisi trydan a dal carbon.

"Fi'n credu efallai y gall Tata ddod lan â'r syniadau i ddod â'r carbon yna lawr," medd Alun Thomas, "ond ni'n erfyn ar y llywodraeth i ddod lan â'r polisi sydd yn cefnogi hwnna, a gallen ni weithio gyda'n gilydd."

Mae Tata Steel yn cyflogi 6,600 o bobl yng Nghymru ar gyflogau sydd, ar gyfartaledd, 36% yn uwch na chyflog cyfartalog y DU.

Mae yna bryder felly ynghylch swyddi a chwestiynau am ddyfodol y cwmni oherwydd ei effaith ar yr amgylchedd.

Dywedodd llefarydd cynaliadwyedd Tata Steel, Martin Brunnock: "Does dim pwynt i ni ddweud na fyddwn yn gwneud dur yn y DU oherwydd nid yw hynny'n datrys eich problem gyda charbon.

"Y cyfan a wnawn wedyn yw mewnforio carbon drwy ein ffiniau mewn nwyddau gorffenedig neu goiliau o ddur i'w ddefnyddio yn y wlad."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd dur yn cael ei gynhyrchu yn y DU doed a ddêl, medd Martin Brunnock

Yng ngwaith dur Port Talbot, mae allyriadau carbon deuocsid eisoes wedi cael eu lleihau trwy ailgylchu dur sgrap yn ôl i ddur hylif.

Yn ôl Tata mae 20% o'i ddur sgrap yn cael ei ailddefnyddio, ac mae pob 1% yn ychwanegol o sgrap sy'n cael ei ailgylchu yn lleihau allyriadau carbon y gwaith 150,000 tunnell y flwyddyn.

Ond mae angen i'r cwmni wneud mwy na hynny i gyrraedd ei darged.

"Mae angen polisïau chwyldroadol... byddai llwybr clir yn ddefnyddiol iawn," meddai Mr Brunnock.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan Tata ym Mhort Talbot

Mae pryderon y gallai newidiadau i'r ffordd y mae dur yn cael ei gynhyrchu, i'w wneud yn wyrddach, arwain at golli miloedd o swyddi.

Nid yw'n ymwneud â diffyg galw yn y dyfodol. Cred Tata Steel yw bydd y defnydd o ddur yn y DU yn cynyddu 10% erbyn 2030, a bydd nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy a systemau cludo carbon isel yn dibynnu arno.

Eisoes mae mwy na dwy ran o dair o'r dur y mae Tata'n ei gynhyrchu yn aros yn y DU.

'Mwy o CO2 na holl geir ac awyrennau'r byd'

"Mae'r hyn mae Tata Steel yn dweud ddim yn synnu fi o gwbl i ddweud y gwir," meddai Dr Carol Bell, sy'n arbenigwr marchnadoedd ynni.

"Mae'n broblem fawr i ddiwydiant fel dur... i ddarganfod ffordd i ddatgarboneiddio. Yn y diwydiant dur yn draddodiadol mae glo yn cael ei defnyddio i gynhyrchu'r dur, ac mae'r carbon ei hunan yn rhan o'r broses felly ma hynna yn broblem fawr.

"Mae rhai yn meddwl bod y diwydiant dur o gwmpas y byd yn gyfrifol am ryw 9% o'r carbon deuocsid sy'n cael ei roi i mewn i'r amgylchfyd, felly ma' hyn yn fwy na'r holl awyrennau a'r holl geir yn y byd. Mae gan y diwydiant hwn broblemau arbennig iawn."

Mae dur o ffatri Tata ym Mhort Talbot yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ceir, pecynnu bwyd, adeiladau, a hyd yn oed i wneud waliau a all gynhyrchu trydan.

Mae llawer o'i gwsmeriaid yn gofyn am ddur sy'n cael ei wneud mewn modd sydd yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd.

Y disgwyl yw y bydd hynny'n cynyddu gan y bydd yn rhaid i gwmnïau yn y dyfodol gyhoeddi effaith eu cadwyn gyflenwi ar lefelau allyriadau.

Mae'r diwydiant eisoes yn cael trafferth gyda phrisiau ynni yn codi'n uchel a chystadleuaeth o dramor.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym eisoes yn gweithio'n agos gyda sector dur Prydain i gefnogi ei newid i ddyfodol carbon isel.

"Rydym eisoes wedi cyhoeddi Cronfa Dur Glân gwerth £250m i gefnogi'r diwydiant i leihau allyriadau carbon, ac mae ein Strategaeth Datgarboneiddio Diwydiannol yn nodi sut y gellir ei wneud mewn ffordd sy'n atal gweithgaredd ddiwydiannol rhag cael ei chontractio dramor - mae hefyd yn cefnogi cystadleuaeth, swyddi a thwf glân."

Pynciau cysylltiedig