Hinsawdd yn sialens i 'bob un person ar y blaned'
Mae problemau ynni a hinsawdd yn effeithio "pob lefel o'r system, o'r llywodraethau mawr i gymunedau lleol", meddai arbenigwr.
Dywedodd y Dr Cai Ladd o Brifysgol Glasgow bod defnydd ynni a'n hallyriadau carbon yn "sialens enfawr" sydd angen gweithredu "gan bob un person ar y blaned".
Roedd yn siarad ar raglen Dros Frecwast ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd fawr COP26 - ble fydd arweinwyr y byd yn ymgynnull i drafod yr argyfwng hinsawdd yn Glasgow.
Mae'n rhaid i uwch-gynhadledd COP26 gynnig "gobaith i bobl ar gyfer y dyfodol", yn ôl Prif Weinidog Cymru.