Hinsawdd: 'Rhaid i COP26 cynnig gobaith i bobl am y dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dr Cai Ladd o Brifysgol Glasgow oedd yn trafod ei obeithion am y gynhadledd ar Dros Frecwast

Mae'n rhaid i uwch-gynhadledd COP26 gynnig "gobaith i bobl ar gyfer y dyfodol", yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Byddai gweithredu gan arweinwyr y byd yn rhoi hyder i'r cyhoedd wneud newidiadau yn eu bywydau nhw, meddai Mark Drakeford.

Mae disgwyl i'r trafodaethau ddechrau yn Glasgow ynglŷn ag ymdrechion i atal cynhesu byd eang.

Y nod yw cadw'r cynnydd at 1.5 gradd ar gyfartaledd, gyda rhybuddion y bydd 'na sgil-effeithiau niweidiol iawn i'r blaned o groesi'r trothwy hwnnw.

O ystyried cynlluniau presennol gwledydd y byd, mae'r ymchwil ddiweddaraf yn awgrymu ein bod ar y trywydd tuag at 2.7 gradd o gynnydd erbyn diwedd y ganrif.

Mae'r twymo yn cael ei achosi gan ormodedd o nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer - a hynny o ganlyniad i losgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy yn bennaf.

'Dechrau diwedd' newid hinsawdd?

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn bwysig i'r byd ddangos yn ystod COP26 "bod hwn yn broblem y gallwn ni ei ddatrys".

Ar hyn o bryd mae pobl yn gweld "holl fusnes newid hinsawdd fel rhywbeth sy'n eu gwneud nhw'n isel eu hysbryd".

"Mae'r iaith sy'n cael eu ddefnyddio ynglŷn ag e'n eu halltudio nhw, maen nhw'n meddwl nad oes unrhyw beth y gallen nhw ei wneud eu hunain."

Disgrifiad,

COP26: Pwy fydd yno, beth maen nhw'n ei drafod a pham bod y cyfan yn berthnasol i ni?

Mae Llywodraeth Cymru yn mynychu COP26 fel rhan o ddirprwyaeth y Deyrnas Unedig, tra bod y gynhadledd ei hun yn cael ei drefnu gan Lywodraeth San Steffan, a fydd yn arwain y trafodaethau lefel uwch.

Yn ôl Prif Weinidog y DU, Boris Johnson fe ddylai'r uwch-gynhadledd "nodi dechrau diwedd newid hinsawdd".

Mae wedi galw am gytundebau ar gael gwared ar losgi glo, gwarchod coedwigoedd trofannol, cyflymu'r symud tuag at drafnidiaeth trydanol, a mwy o gyllid i gefnogi gwledydd sy'n datblygu.

Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru y byddai'n canolbwyntio ar gyfarfodydd gydag arweinwyr o "wledydd a rhanbarthau bach eraill sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth".

Mae Llywodraeth Cymru yn rhan o glymblaid 'Under 2' - grŵp o 260 o lywodraethau taleithiol a rhanbarthol fydd yn cael eu cynrychioli yn yr uwch-gynhadledd.

Dywedodd y byddai "wir yn awyddus i ddysgu o'r hyn mae pobl eraill yn ei wneud a gweld sut allwn ni elwa o'u profiad nhw i geisio gwneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth yma yng Nghymru".

"Pan fo'r blaned yn llosgi dyw hynny ddim yn broblem i rywun arall - mae'n broblem yma yng Nghymru hefyd," meddai.

"Meddyliwch am y tywydd eithafol ry'n ni wedi gweld yn ystod gaeafau diweddar, a'r ffaith bod ein harfordir yn cael ei erydu - mae'r problemau yna ond yn mynd i waethygu."

Bydd dirprwyaeth trawsbleidiol o Aelodau'r Senedd a sawl Aelod Seneddol o Gymru yn mynychu'r digwyddiad hefyd, sy'n para am bythefnos.

Dywedodd Llŷr Huws Gruffydd o Blaid Cymru, cadeirydd pwyllgor newid hinsawdd y Senedd bod yn rhaid i "lais Cymru gael ei chlywed yn COP26".

"Er bod Cymru'n wlad fach, gall hefyd gael effaith fawr, drwy osod esiampl," meddai.

"Rydym ni eisoes wedi gweld rhywfaint o gynnydd gan Lywodraeth Cymru, ond mae angen iddi ddechrau troi ei bwriadau da'n gamau gweithredu pendant."

Yn y cyfamser, bydd arweinwyr busnes, elusennau ac ymgyrchwyr amgylcheddol o Gymru ymysg y sawl sy'n codi stondinau ym mharth gwyrdd yr uwchgynhadledd - arddangosfa anferth o'r math o arloesi sydd ei angen i daclo newid hinsawdd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Poppy Stowell-Evans yn meddwl bod cyfraniad pobl ifanc yn allweddol

Mae Poppy Stowell-Evans, cadeirydd rhaglen Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru wedi'i gwahodd i gymryd rhan mewn sesiynau yn y parth gwyrdd a'r parth glas - sef lle mae'r trafodaethau allweddol yn digwydd.

Fe ddywedodd y disgybl ysgol 17 mlwydd oed ei bod hi a'i chyd-ymgyrchwyr yn awyddus i "ddangos i bobl ifanc eraill bod cynadleddau fel COP yn le iddyn nhw hefyd".

"Dwi wir yn meddwl heb y symudiad o bobl ifanc na fyddai newid hinsawdd mor uchel ar agenda arweinwyr byd," meddai.

"Felly drwy fynd i COP dwi eisiau bod yn rhan o hynny a gwthio llais pobl ifanc i mewn i arena lle dy'n nhw ddim wastad wedi cael eu cynrychioli."

Drwy Gymru, mae Llywodraeth Cymru'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau hefyd fel rhan o raglen y parth gwyrdd - dan faner COP Cymru.

A mae'r cyfraniad Cymreig i'r ymdrech i warchod Glasgow yn amlwg hefyd - gyda faniau 'heddlu' i'w gweld yn glir ar strydoedd y ddinas.

Mae disgwyl y bydd 10,000 o heddweision o bob cwr o'r Deyrnas Unedig ar batrôl o amgylch safle'r uwchgynhadledd yn ystod yr 14 diwrnod nesaf.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Allyriadau 'ddim yn cydnabod ffiniau'

Mae hi'n hanfodol bwysig fod Cymru'n cymryd rhan yn y gynhadledd er ei bod hi'n wlad fach, yn ôl yr arbenigwr mewn gwleidyddiaeth amgylcheddol rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd Dr Jen Allan.

"Dydy allyriadau ddim yn cydnabod ffiniau rhwng gwledydd" meddai Dr Allan, sydd yn bresennol yn COP26, ac mae'r gynhadledd yn gyfle i wledydd mawr a bach ddod at ei gilydd i weithredu.

"Mae gan Gymru rhywbeth yn debyg i sawl gwlad ar draws y byd - rydyn ni'n agored i effeithiau newid hinsawdd, ac mae hefyd llawer y gallwn ni ei wneud i leihau ein allyriadau ni."

Mae buddiannau gweithredu ar newid hinsawdd yn cynnwys creu swyddi, lleihau llygredd aer, a chreu poblogaeth mwy iachus, esboniodd.

Dywedodd Dr Allan mai'r cam cyntaf at ddod i'r afael â newid hinsawdd ar lefel rhyngwladol fydd COP26, ac mae'n hanfodol ein bod ni hefyd yn gwneud newidiadau gartref.

Pynciau cysylltiedig