Pasys Covid: Ehangu'r rheolau i theatrau yn 'gyfle heriol'
Bydd ehangu pasys Covid yn "gyfle heriol" i theatrau, dywedodd un rheolwr theatr o Ferthyr Tudful fore Mercher.
Yn dilyn pleidlais yn y Senedd nos Fawrth, bydd angen pàs Covid mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o ddydd Llun 15 Tachwedd.
Ymateb "cymysg" oedd gan Lis McLean, Prif Weithredwr Theatr Soar, i'r bleidlais wrth siarad ar raglen Dros Frecwast.
Bydd y rheolau newydd yn "ychydig o rwystr", meddai hi, ond yn gyfle i theatrau "helpu'n cymuned dros y rhwystr hynny."
Pryderu oedd Ms McLean am allu pobl ym Merthyr Tudful, "lle mae llawer o bobl heb unrhyw fynediad at dechnoleg," i gael pàs.
Mae eisoes angen pàs i fynd i rai lleoliadau, gan gynnwys clybiau nos a digwyddiadau chwaraeon mawr.
Gall oedolion dros 18 oed gael pàs os ydynt wedi cael eu brechu'n llawn, wedi profi'n negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf neu wedi cael prawf PCR positif yn y chwe mis blaenorol.