Y Senedd o blaid ehangu pasys Covid i sinemâu a theatrau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
QR codeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud nad oes tystiolaeth fod y pasys yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws

Bydd angen pàs Covid mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd ar ôl i'r Senedd bleidleisio 39-15 o blaid hynny.

Roedd angen cefnogaeth o feinciau'r gwrthbleidiau ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun o 15 Tachwedd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod y pàs Covid "yn un ffordd arall y gallwn gryfhau'r mesurau sydd gennym ar waith ar lefel rhybudd sero, pan fo'r cyfraddau mor uchel â hyn, i'n helpu i gadw ni'n ddiogel ac i gadw Cymru ar agor".

Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid yr estyniad ddydd Mawrth er iddynt bleidleisio yn erbyn cyflwyno pasys Covid yn y lle cyntaf.

Pleidleisiodd y Ceidwadwyr a'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn erbyn yr estyniad.

Fe wnaeth Eluned Morgan gydnabod nad oedd y diwydiannau dan sylw wedi croesawu'r cynlluniau i ymestyn y pàs yn gyffredinol.

Ond dywedodd fod y lleoliadau wedi cael eu dewis "oherwydd eu bod dan do, ac maen nhw'n gweld nifer fawr o bobl wedi ymgynnull yn agos at ei gilydd am gyfnod hir".

Honnodd Ms Morgan fod y gwasanaeth yn gweithio'n dda a bod swyddogion wedi derbyn "adborth cadarnhaol ar y cyfan".

Honnodd fod mwyafrif y cyhoedd yn cefnogi'r defnydd o'r pasys.

Disgrifiad,

Lis McLean o Theatr Soar ym Merthyr Tudful oedd yn trafod ar Dros Frecwast

'Methu â darparu tystiolaeth'

Dywedodd llefarydd cyfansoddiadol y Ceidwadwyr, Darren Millar, fod "llawer o faterion moesegol a chydraddoldeb yn codi gyda phasys Covid, ochr yn ochr ag effaith rhyddid sifil".

"Mae'r llywodraeth Lafur wedi methu yn syfrdanol â darparu unrhyw dystiolaeth o gwbl bod y pasys Covid hyn mewn gwirionedd yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws neu'n cynyddu nifer y bobl sy'n derbyn y brechlyn," meddai.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth y gwnaethon nhw bleidleisio yn erbyn y pasys yn wreiddiol "yn y gobaith o allu dod â model cryfach i mewn".

"Ond rydyn ni'n derbyn bod hyn yn well na dim," meddai.

Ychwanegodd AS Ynys Môn ei fod yn "argyhoeddedig, fel y mae llawer o'r gwyddonwyr, mai brechlynnau yw'r rhwystr gorau rhag cael eich heintio".

Ond dywedodd y bydd sefydliadau gwirfoddol ymhlith y rhai yr effeithir arnynt: "Rhaid i ni sicrhau bod pob cefnogaeth ar gael o ran gweithredu'r pasys."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogwyr wedi gorfod dangos pàs Covid er mwyn cael mynediad i gemau cyfres yr hydref yn Stadiwm Principality

Gan amlinellu ei rhesymau dros wrthwynebu ymestyn pasys Covid, dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, nad oedd hi wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hyd bod y pasys yn "gweithio i leihau trosglwyddiad neu i wella'r nifer sy'n derbyn y brechlyn".

Dywedodd Ms Dodds ei bod hefyd yn gwrthwynebu'r cynlluniau ar egwyddor.

"Yn syml iawn, nid wyf yn credu y dylai pobl orfod darparu data meddygol i ddieithryn llwyr nad yw'n glinigwr," meddai.

Trafod cytundeb cydweithredu

Daw'r bleidlais wrth i'r llywodraeth Lafur, sydd heb fwyafrif yn y siambr, drafod cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru.

Mae'r pleidiau wedi bod yn trafod ers misoedd, ond does dim disgwyl iddyn nhw ffurfio clymblaid.

Mae eisoes angen pàs i fynd i rai lleoliadau, gan gynnwys clybiau nos a digwyddiadau chwaraeon mawr.

Gall oedolion dros 18 oed lawrlwytho pàs i'w ffonau clyfar os ydynt wedi cael eu brechu'n llawn, wedi profi'n negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf neu wedi cael prawf PCR positif yn y chwe mis blaenorol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes modd mynd i gêm bêl-droed gyda mwy na 10,000 o bobl heb bàs Covid

'Cyfle heriol' i theatrau

Bydd ymestyn pasys Covid i theatrau yn "ychydig o rwystr," meddai pennaeth theatr ym Merthyr Tudful, ond yn "gyfle heriol".

Mae'r rheolau newydd yn "dda mewn un ffordd, achos mae'n sicrhau bydd pobl yn gallu mynd mas hyd at y Nadolig," dywedodd Prif Weithredwr Theatr Soar, Lis McLean, wrth raglen Dros Frecwast fore Mercher.

Ar y llaw arall, esboniodd y byddai gorfod dangos pàs Covid yn stopio rhai rhag ymweld â'r theatr, a'i bod hi'n pryderu am allu ei chymuned hi i addasu i'r rheolau.

"Dwi'n gweld rhwystrau i'n cymuned ni, cymuned difreintiedig Merthyr, lle mae llawer o bobl heb unrhyw fynediad at dechnoleg."

Ychwanegodd iddi gael trafferth wrth geisio cael pàs Covid ei hun: "I fod yn onest, doeddwn i ddim yn gallu 'neud e."

Ond meddai hi y byddai mwy o bobl yn dymuno mynd i'r theatr wedi'r rheolau newydd na'r rhai fydd ddim, a bod hyn yn gyfle i'r theatr "helpu'n cymuned dros y rhwystr" o gael pàs.

Rhybuddiodd y rheolwr theatr fod angen gwneud mwy i esbonio nad pasport brechu yw pàs Covid, a bod modd dangos canlyniad prawf Covid er mwyn cael un.

Esboniodd Ms McLean iddi fod "reit yn erbyn" y syniad o basys Covid yn wreiddiol, ond ei bod yn "gweld y mantais o'i wneud e" erbyn hyn.