Iaith: Cytundeb Llafur a Phlaid Cymru'n 'bellgyrhaeddol'
Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi cytuno i gydweithio yn y Senedd.
Bydd y cytundeb rhwng y ddwy blaid - sy'n ymdrin â 46 o feysydd gwahanol - yn para am y tair blynedd nesaf.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros nifer o'r newidiadau polisi sydd wedi cael eu cytuno; gan gynnwys defnydd yr iaith Gymraeg, rheolau rhent a chynlluniau i drwyddedu tai gwyliau.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "'Da ni'n croesawu'r ymrwymiadau 'ma yn y cytundeb.
"Maen nhw'n gamau pellgyrhaeddol fydd really yn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu dysgu, defnyddio a mwynhau'r Gymraeg."