Cyhoeddi cytundeb cydweithio 'radical' Llafur a Phlaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi cyhoeddi manylion eu cytundeb cydweithio yn y Senedd.
Mae'r polisïau'n cynnwys ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd o fewn tair blynedd, diwygio treth cyngor, gweithredu i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn ail-gartrefi, a nod o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.
Dywed y pleidiau ei fod yn gam arall ymlaen yn eu hymdrech i "wireddu addewid o wleidyddiaeth newydd - un sy'n radical o ran ei sylwedd a chydweithredol yn ei ffordd o weithio".
Bydd y cytundeb rhwng y ddwy blaid yn y Senedd - sy'n ymdrin â 46 o feysydd gwahanol - yn para am y tair blynedd nesaf.
Wrth gyhoeddi'r cytundeb cydweithio brynhawn Llun, fe soniodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price am eu "huchelgais ar gyfer Cymru".
Beth sydd yn y cynllun?
Mae'r cytundeb cydweithredu 11 tudalen o hyd yn cynnwys ystod eang o bolisïau, gan gynnwys cynllun i "gomisiynu cyngor annibynnol" i edrych ar sut y gallai Cymru symud ei darged sero net o 2050 i 2035.
Yn ogystal ag ehangu prydau ysgol am ddim, mae yna gynlluniau hefyd i ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu ac atgyfnerthu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth ymateb, dywedodd Leanne White, mam o Gaerdydd, y byddai "wrth ei bodd" gyda'r syniad.
"Dwi methu ei gael oherwydd fy nghod post. Yn llythrennol lawr yr hewl ma' nhw'n gallu.
"Dwi ddim yn gweld sut allen nhw wahaniaethu rhwng plant - ac ma' hynny wedi digwydd ers blynyddoedd."
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl dyna'r oed ma' nhw angen cymysgu gyda phlant eraill, mynd i feithrinfa, a chymysgu gyda phlant eraill os nad ydyn nhw'n cael cyfle fel arall."
Fe fydd cefnogaeth hefyd i gynyddu maint y Senedd o 60 i "80 neu 100 aelod", diwygio'r broses ethol aelodau a'i gwneud yn gyfraith bod angen yr un faint o ddynion a menywod.
Unwaith y bydd grŵp trawsbleidiol wedi llunio polisïau ar gyfer Mesur Diwygio'r Senedd, mae'r pleidiau'n addo cyflwyno'r gyfraith ddrafft "12 i 18 mis" yn ddiweddarach.
Mae addewid hefyd i "weithio tuag at greu Ynni Cymru, cwmni ynni cyhoeddus ar gyfer Cymru, dros y ddwy flynedd nesaf" er mwyn annog cynhyrchiad ynni adnewyddadwy o fewn cymunedau.
Mae'r cytundeb yn cynnwys gweithio ar gyfundrefn cymhorthdal ffermio newydd i gymryd lle'r rheiny oedd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd, ond ni fydd y rheiny yn cael eu cyflwyno nes 2025.
Yn y ddogfen mae addewid hefyd ar gyfer adolygiad annibynnol o adroddiadau blaenorol i'r llifogydd yn ne Cymru ar ôl Storm Dennis y llynedd ac ehangu safonau'r Gymraeg.
Beth arall sydd yn y ddogfen?
Mae'r polisïau eraill yn y ddogfen 11 tudalen yn cynnwys:
Gofyn i Drafnidiaeth Cymru "ystyried datblygu cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru";
Mwy o fuddsoddiad mewn mesurau i reoli ac atal llifogydd;
Gweithio gyda ffermwyr er mwyn gwella ansawdd dŵr ac aer;
Rhoi arian i fudiadau newyddiadurol yng Nghymru i "fynd i'r afael â diffyg gwybodaeth";
Gobaith i newid trefn y flwyddyn, a'r diwrnod ysgol;
Datblygu system wahanol i'r darparwyr preifat o athrawon cyflenwi;
Troi'r system plant mewn gofal yn un nid-er-elw;
Datblygu strategaeth ddiwylliant newydd;
Cyflwyno cyfraith newydd ynglŷn ag addysg iaith Gymraeg;
Sicrhau bod enwau llefydd Cymraeg yn cael eu "diogelu a'u hyrwyddo";
Ehangu Safonau'r Gymraeg i fwy o gyrff cyhoeddus.
Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys mesurau i fynd i'r afael ag ail gartrefi, addewid i "wobrwyo gweithwyr iechyd a gofal" a diwygio'r system bresennol ar gyfer diogelwch adeiladau yn sgil trychineb Grenfell.
'O fudd i bob cenhedlaeth'
Dywedodd y Prif Weinidog: "Trwy gydweithio, mae modd inni gyflawni mwy ar gyfer pobl Cymru.
"Bwriad y Cytundeb Cydweithio yw ymateb i'r heriau allanol sy'n ein hwynebu ac mae hefyd yn cynnig cyfle i adeiladu ar gyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
"Bydd hefyd yn ein helpu i sicrhau bod gennym dros y tair blynedd nesaf Senedd sefydlog a chanddi'r cryfder i wneud newidiadau a diwygiadau radical."
Yn ôl Mr Price: "Gyda'i gilydd, bydd yr addewidion polisi beiddgar yn uno Cymru ac o fudd i bob cenhedlaeth, boed yn brydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd neu'n wasanaeth gofal cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo'i angen.
"Rwy'n falch bod y Cytundeb Cydweithio arloesol hwn wedi'i seilio ar dir cyffredin mewn amryw faterion a fydd yn gwneud gwahaniaeth tymor hir i fywydau pobl."
Cafodd y cytundeb ei gymeradwyo gan gyrff rheoli'r ddwy blaid dros y penwythnos, ond fe fydd aelodau Plaid Cymru'n cael pleidleisio arno y penwythnos nesaf.
Fe allai'r cytundeb wynebu rhwystr os ydy aelodau Plaid Cymru'n pleidleisio yn ei erbyn yng nghynhadledd rithiol y blaid y penwythnos nesaf, ond does dim disgwyl i hynny ddigwydd.
Mae polisïau eraill sydd eisoes wedi'u hadrodd yn cynnwys:
Cyflwyno trethi twristiaeth lleol;
Cyhoeddi cynigion ar reoli lefelau rhent er mwyn gwneud tai yn fwy fforddiadwy i bobl leol;
Diwygio'r gyfraith ar dai er mwyn atal digartrefedd;
Creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol;
Diwygio'r system treth cyngor;
"Ystyried creu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru".
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud yn y gorffennol fod angen y trafodaethau am nad oes gan y blaid fwyafrif i ddelio â "materion heriol ac uchelgeisiol".
Ni fyddai'r cytundeb yn glymblaid, ac ni fyddai ASau Plaid Cymru'n rhan o'r llywodraeth.
Ond mae BBC Cymru yn deall y byddai modd i Blaid Cymru benodi cynghorwyr arbennig i weithio ar y cytundeb o fewn y llywodraeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod y cytundeb yn "syfrdanol oherwydd yr absenoldeb o ddatrysiadau ar gyfer sut i adfer y GIG - sy'n dioddef ei berfformiad gwaethaf erioed ar hyn o bryd - a chynlluniau i wella economi Cymru".
"Dydy cytundeb diweddaraf Llafur gyda'r cenedlaetholwyr ddim yn cyflawni ar flaenoriaethau teuluoedd ar draws Cymru, a bydd yn achosi anrhefn cyfansoddiadol sy'n peryglu ein hadferiad economaidd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021