Parciau cenedlaethol: A fyddech chi'n talu am fynediad?
Mae'r cyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Owain Tudur Jones wedi dweud y dylid ystyried codi tâl ar bobl i gael mynediad i barciau cenedlaethol.
Ond wrth siarad fel golygydd gwadd ar Dros Frecwast ddydd Iau, roedd yn cydnabod y gallai rhai pobl "golli allan" oherwydd y pris mynediad.
Fel un sy'n cerdded mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri yn aml, dywedodd Owain y byddai'n anodd i weithredu a "bron yn amhosib" i'w heddlua.
Awgrymodd y dylai pobl gael yr opsiwn i "gyfrannu'r hyn maen nhw'n gallu".
"Be sy'n bwysig [ydy] i 'neud i bobl feddwl," meddai.
"Mae hyn i gyd am ddim felly dangoswch pa mor ddiolchgar ydan ni mewn ffyrdd ychydig bach yn wahanol.
"Yn lle chwilio am y maes parcio sneaky bach i beidio a thalu neu ffendio rhyw gornel, parchwch y ffaith bod angen cyfrannu rhywfaint neu mae'r parc cenedlaethol yn cael ei chwalu'n ara' deg a fydd o ddim yma am mor hir ag y basan ni yn lecio."
Mae 'na alw wedi bod ar fwy o fuddsoddi yn y parciau yn sgil cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, yn rhannol oherwydd y pandemig.
Dywedodd Wyn Ellis Jones, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, "problemau amlwg yn ymarferol" wrth ystyried codi pris mynediad i'r parciau.
"Mae parc Eryri yn barc lle mae pobl yn byw a gweithio ynddo yn wahanol i barciau cenedlaethol ar hyd a lled y byd," ychwanegodd.
"Ond yn bwysicach mae'r egwyddor fod mynediad i'r parciau am ddim yn un o sylfeini'r parciau cenedlaethol pan gawson nhw eu sefydlu 70 mlynedd yn ôl.
"Mae hynny yn dal yn bwysig inni fel awdurdod ond dwi yn derbyn bod 'na gost i redeg parc cenedlaethol."