'Gwir angen' gwella is-adeiledd parciau cenedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Golygfa o gopa'r WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwelodd Parc Cenedlaethol Eryri gynnydd o 30% yn nifer yr ymwelwyr y llynedd

Mae prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi galw am fuddsoddi er mwyn gwella isadeiledd parciau cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Emyr Williams ar raglen Dros Frecwast nad yw'r drefn bresennol yn "ddigon da" oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr.

Yn ystod y pandemig, mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr.

Galwodd hefyd am fesur effaith twristiaeth mewn ffordd wahanol, gan ystyried yr effaith ar gymunedau a'r amgylchedd yn ogystal â'r economi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Williams yn galw am "fesur effaith twristiaeth a hamddena mewn ffordd wahanol"

"Mae gwir angen buddsoddi," meddai Mr Williams ar Radio Cymru fore Gwener.

"Dyw'r isadeiledd ddim yn ddigon da erbyn hyn ar gyfer y pwysau o bobl.

"Dy'n ni wedi gweld, dros y 10 mlynedd ddiwetha', cynnydd cyson o ryw 5% yn nifer yr ymwelwyr.

"Ond, ar ôl datgloi llynedd, 'naethon ni weld cynnydd o 30%."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cerbydau yn aml yn gorfod cael eu symud wedi iddyn nhw gael eu parcio'n anghyfreithlon wrth droed yr Wyddfa

Ychwanegodd Mr Williams bod angen "mesur effaith twristiaeth a hamddena mewn ffordd wahanol".

"Fel arfer, ry'n ni'n meddwl am yr effaith economaidd, ond mae 'na effaith gymunedol ac amgylcheddol," meddai.

"Mae'r isadeiledd wedi gwneud yn dda iawn - mae wedi para rhyw hanner canrif - ond mae angen edrych ymhellach nawr."

O ble ddaw'r arian?

Ychwanegodd Mr Williams ei fod yn pryderu am o ble fyddai'r buddsoddiad yn dod.

"Os ydyn ni eisiau cadw'r lle ma'n boblogaidd, mae'n rhaid gwneud buddsoddiad. Y cwestiwn mawr yw lle mae'r buddsoddiad yn mynd i ddod," meddai.

"Yn y crebachu mewn arian sector gyhoeddus - lle mae'r arian yn mynd i ddod?"

Ffynhonnell y llun, Peri Vaughan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd adroddiadau bod ciw o 45 munud i gyrraedd copa'r Wyddfa yn ddiweddar

Dywedodd Mr Williams fod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn help mawr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"Ry'n ni fel cyrff wedi cael mwy o arian ychwanegol eleni gan Lywodraeth Cymru.

"Mae hwnna wedi bod yn werthfawr iawn i gael mwy o staff ar y ddaear, i gael gwneud trefniadau dros dro i wella meysydd parcio a gwella gwasanaethau bws."

Serch hynny, mae'n dweud fod y sefyllfa wedi newid erbyn hyn.

"Mae angen eistedd lawr eto eleni a thrio paratoi ar gyfer y flwyddyn nesa eto," meddai.