2022: Copaon Cymru dan orchudd eira
- Cyhoeddwyd

Llyn y Fan Fawr, sydd ar droed Fan Brycheiniog, mynydd uchaf cadwyn y Mynydd Du. Meddai Carly Davies: "Ar ôl deg diwrnod o law, roedd cerdded yn yr eira dan awyr las yn fendigedig."
Mae eira cynta'r flwyddyn wedi disgyn…
Ar ôl cyfnodau o law trwm a dyddiau mwyn dros yr wythnosau diwethaf, mae'r tywydd wedi troi ar ddechrau 2022 fel mae'r lluniau yma o ucheldiroedd Cymru yn profi.


Edrych dros Lyn Padarn tuag at Ben-y-Pass.

Moelydd yr Wyddfa; Moel Eilio, Foel Goch, Foel Gron a Moel Cynghorion yn wyn a'r Wyddfa'n cuddio dan niwl (chwith). Mae'r llun wedi'i dynnu o bentref Fachwen gan Eirwen Williams ac yn edrych dros Lyn Padarn.

Ar Lyn Padarn, er gwaetha'r oerfel, mae'r elyrch a'r padlfyrddwyr allan yn y bore.

Eira cyntaf 2022 ar gopa 2468tr Pumlumon Fawr, Ceredigion. Llun wedi'i dynnu o Dregaron gan Dafydd Wyn Morgan.

Waun Lefrith a Phicws Du yn Y Mynydd Du, Bannau Brycheiniog dan orchudd o eira. Yng ngeiriau Aled Hall, tynnwr y llun: "Waun Lefrith fel llâth a Phicws Du'n wyn."

Lle oer i weithio ers talwm - ponciau Chwarel Dinorwig.

Cawod o eira arall ar y ffordd i gopa Moel Cynghorion, ger Llanberis?

Eira a rhew yn cyrraedd tiroedd is - Comin Eglwysilan wedi rhewi'n gorn.

Edrych i lawr Dyffryn Ogwen ar ôl cerdded i gopaon y Glyderau...

...a phaned o de i ddathlu.

Eira yn llwch ysgafn ar gaeau Rhiwfawr, Cwm Tawe.
Hefyd o ddiddordeb: