Aled Hall: Trwy lens y camera
- Cyhoeddwyd
Mae'r canwr opera, Aled Hall, ar hyn o bryd adre ar ei fferm yn Nolgran ger Pencader, Sir Gaerfyrddin. Ar ddechrau'r cyfnod ynysu, daeth yn ôl o Lundain, lle bu'n ymarfer yn y Tŷ Opera Cenedlaethol yn Covent Garden.
I gadw'n bositif mewn cyfnod o ansicrwydd am ei yrfa fel canwr proffesiynol, dechreuodd Aled Hall dynnu lluniau o gwmpas ei fferm. Erbyn hyn, mae ei luniau yn denu llawer o ymateb ar ei gyfrif Twitter, dolen allanol.


Tynnwyd y llun yma o Heol Rufeinig, Ffynnon Rhos ar dop Dolgran yn edrych allan tuag at Sir Benfro i'r gorllewin
"Wi'n lwcus bo' fi'n byw lle ydw i. Bob bore a nos mae'r golau a'r olygfa yn hollol wahanol."

"Mae'r ffotograffiaeth wedi mynd â'n ddileit i yn ystod y lockdown. Mae'n cadw'r iechyd meddwl yn bositif a rhoi routine i fi. Cyn hyn ro'n i'n ymarfer ar gyfer opera yn Covent Garden yn Llundain, ac o'n i fod yn gweithio yno tan fis Chwefror nesaf. Ond mae'r gwaith wedi ei ganslo a sai'n gweld ni'n dechrau eto ym mis Medi.
"Mae'n dipyn o boen meddwl ar hyn o bryd a does dim cliw gyda fi pryd fyddai nôl ar y llwyfan."

Edrych dros fynydd Llanllwni
"Fe brynes i'r camera dwi'n ei ddefnyddio i'r ferch rai blynyddoedd yn ôl, mae hi'n dda yn tynnu lluniau. Dwi wedi dechre cael blas arni, er sai'n ffotograffydd o gwbwl ac yn deall dim am dynnu lluniau. Dwi wedi bod ar y we i drio gwella fy hunan.
"Dwi lan am bump y bore. Dim ond cerdded dau led cae a dwi'n gweld yr olygfa yma o'r haul dros fynydd Llanllwni am gyfeiriad Alltwalis."

Ar gae fferm Gilfach Fawr, drws nesaf
"Mae'r cyfnod yma wedi neud i fi werthfawrogi eto beth sy' o'n hamgylch ni."

"Mae'r golygfeydd yn mynd â fi nôl i'm mhlentyndod. Pan o'n i'n arfer codi'n fore i odro, bydden i'n gweld boreau fel hyn yn aml. Ond y dyddie yma gan mod i'n byw yn Llundain am saith i wyth mis o'r flwyddyn, dwi ddim yn gweld hyn."

"Pan ti'n cael Y llun, ti'n cael gwefr. O'n i'n digwydd pasio'r cae, a gweld y ddafad a meddwl mae'n rhaid i fi dynnu'r llun yma. Es i'n ecseited i gyd!"

"Dwi'n dwli ar y lleuad, weithie dwi mas tan dri o'r gloch y bore i gael y golau iawn."

"Mae'n biwtiffwl i fod mas o dan y lloer. Dwi'n teimlo yn lwcus iawn i fod fan hyn, yn ystod y cyfnod yma."

"Ni wedi bod yn lwcus gyda'r tywydd, ni'n ei gymryd yn ganiataol fel arfer. Ond pan mae'r tywydd yn troi, mae'r lluniau yn gallu bod yn fwy dramatig a diddorol."

"Gwneud hyn i fi fy hunan ydw i. Dwi wedi postio llun ar fy nghyfrif Twitter bob bore a nos ers deg wythnos a mae pobl wedi dod i ddisgwyl nhw nawr."

"Dwi wrth fy modd yn edrych lawr at arfordir Sir Benfro tua'r gorllewin. Mae rhywbeth yn wahanol bob tro."

"Bob y ci defaid ar y ffarm yw hwn. Mae'n neis bod y teulu i gyd adre' ar hyn o bryd. Mae fy efeilliaid Elen a Dan wedi gorffen eu blwyddyn gyntaf yn y coleg yng Nghaerdydd ac Abertawe, a wedi dod nôl fan hyn cyn y lockdown."

Cywion yn cysgu mewn esgid rhedeg!
"Dy'n ni ddim wedi ffarmo fan hyn ers 15 mlynedd, ni'n rhentu'r caeau a mae Mam a Dad yn byw yn y tŷ, ond mae dal rhai anifeiliaid o gwmpas y lle."

Tynnwyd hwn adre' ar ffarm Rhiwlwyd yn edrych tuag at y dwyrain dros Fynydd Llanllwni
"Mae pobl wedi bod yn garedig iawn am y lluniau ac yn licio eu gweld nhw. Mae'n rhoi rhyw fath o oleuni."
Hefyd o ddiddordeb: