'Dim ond cwta ryw wyth tŷ allan o filiwn o bunnau'

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £11m ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi sy'n gwneud hi'n amhosib i rai, gan gynnwys pobl ifanc, allu fforddio i aros yn eu cymunedau eu hunain.

"Pitw" yw disgrifiad y grŵp ymgyrchu Dyfodol i'r Iaith o'r swm hwnnw, gan ddadlau y byddai ond yn ddigon i brynu neu godi 44 o dai pan fo angen £200m ar gyfer darparu 800 o gartrefi yng ngorllewin Cymru.

Does dim yn ateb syml, medd Llywodraeth Cymru sy'n dweud ei bod yn cyflwyno "cyfres" o fesurau.

Un o'r camau hynny yw sefydlu ardal beilot yn Nwyfor, sy'n cynnwys Pen Llŷn a'r ardal i'r gorllewin o Borthmadog.

Bydd dau swyddog yn cael eu cyflogi i gefnogi a datblygu cynlluniau yn yr ardal, a bydd yna arian ychwanegol i'r cynghorau sy'n cael eu heffeithio gwaethaf.

Ond mae'r ymgyrchydd dros dai fforddiadwy a'r aelod o Gyngor Tref Nefyn, Rhys Tudur yn poeni na fydd modd cyflawni llawer gyda'r arian sydd ar gynnig hyd yn hyn.