Cyhuddo llywodraeth o roi 'swm pitw' i daclo ail-gartrefi

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhys Tudur o Gyngor Tref Nefyn ar yr arian sydd ar gael ar gyfer gynllun peilot ail gartrefi Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhuddo o gynnig "swm pitw" o arian i daclo'r "argyfwng" ail gartrefi yng Nghymru.

Mae'r llywodraeth wedi addo £11m i brynu ac adfer tai yn y rhannau o Gymru sydd wedi eu heffeithio waethaf.

Ond yn ôl grŵp ymgyrchu Dyfodol i'r Iaith, fe fyddai'r arian a glustnodwyd yn cyfateb â phrynu neu godi dim ond 44 o dai.

Mae'r grŵp yn dweud y dylai £200m gael ei glustnodi er mwyn adeiladu neu brynu 800 o dai i ymateb i'r angen yng ngorllewin Cymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru does dim un ateb syml i daclo'r mater, ac mae'n dweud ei bod yn cyflwyno "cyfres" o fesurau.

Cynllun yn 'boenus o ara deg'

Mae hefyd wedi dod i'r amlwg bod Llywodraeth Cymru eto i benodi dau swyddog i gefnogi peilot a lansiwyd ym mis Ionawr, i edrych ar y sefyllfa yn Nwyfor.

Yn ôl Rhys Tudur, Arweinydd Cyngor Tref Nefyn ac aelod o grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra, mae'n "boenus o ara deg" o ran y peilot.

"Mae dal yn ansicr iawn beth sy'n cael ei gynnwys yn y peilot ei hun. A thra bod mwy o arafwch mae mwy o dai yn mynd o afael pobl leol."

Mae yntau yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arian tuag at daclo'r sefyllfa, gan feirniadu'r £1m a addawyd ar gyfer prynu ac adfer tai yn benodol o fewn yr ardal beilot yn Nwyfor gan y gweinidog, Julie James, nôl ym mis Tachwedd.

"Mae angen symiau sylweddol. Tydi'r miliwn ar gyfer peilot ddim am wneud dim math o wahaniaeth.

"Mae'n bitw ar y funud faint maen nhw'n fodlon ei glustnodi."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod £11m bellach wedi ei glustnodi ar gyfer prynu ac adfer tai o fewn yr ardal beilot ac yn fwy cyffredinol ar draws cynghorau Gwynedd, Môn, Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro.

Ond yn ôl Dyfodol i'r Iaith, mae angen mwy o weithredu sylweddol ar frys.

"Mae cynnig ariannol presennol y llywodraeth yn cyfateb yn fras i brynu neu godi 44 o dai, swm pitw o ystyried maint yr argyfwng."

Mae'r grŵp yn galw ar Lywodraeth Cymru i "glustnodi £200m o gyfalaf i'w gwario'n bennaf yn yr ardaloedd gorllewinol lle mae'r argyfwng tai ar ei fwyaf dwys" gan olygu "800 o gartrefi gael eu prynu neu eu codi".

Yn ôl Dyfodol i'r Iaith gallai'r tai hynny "ymateb i anghenion lleol" gydag opsiwn i ran-berchnogi tŷ neu sefydlu llety gwyliau dan berchnogaeth gyhoeddus - a'r elw wedyn yn mynd i ariannu tai lleol neu isadeiledd i'r gymuned.

Mae'r grŵp yn galw ar Lywodraeth Cymru i "gomisiynu astudiaeth fanwl, a hynny ar frys, i botensial ac agweddau ymarferol" y cynigion - a'i gyhoeddi erbyn y Pasg.

Disgrifiad,

Fe gafodd y cynllun peilot ei groesawu gan lawer pan gafodd ei gyhoeddi

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi "ymroi i ddelifro 20,000 o dai cymunedol, carbon-isel, safon uchel, i'w rhentu yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf".

"Ar ben hynny, rydyn ni wedi darparu £5m ychwanegol y flwyddyn, sy'n dod a'r cyfanswm i £11m yn y flwyddyn ariannol hon yn unig i awdurdodau lleol lle mae cymunedau wedi eu heffeithio gan berchnogaeth ail-gartrefi a llety gwyliau, fel eu bod yn gallu prynu ac adfer tai gwag. Fe fyddwn ni'n monitro llwyddiant hyn yn agos.

"Mae hwn yn bwnc cymhleth a does dim ateb syml, dyna pam rydyn ni'n cyflwyno pecyn o fesurau i weld beth fydd fwyaf effeithiol wrth warchod bywiogrwydd cymunedau Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Capel Bethania ym Mhistyll ei werthu am £257,000 yn ddiweddar, gyda chaniatâd i'w droi'n lety gwyliau

Ym mis Tachwedd, fe addawodd cytundeb cydweithredu newydd Llafur a Phlaid Cymru i gymryd "camau brys a radical" i fynd i'r afael ag ail-gartrefi.

Ddiwrnod yn ddiweddarach, wth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynllun ar gyfer taclo ail-gartrefi, fe gyhoeddodd y Gweinidog Julie James y byddai dwy ran i'r gwaith.

Fe fyddai'r rhan gyntaf yn cynnwys ardal beilot yn Nwyfor, fyddai'n cyflogi dau swyddog i gefnogi a datblygu cynlluniau yn yr ardal, yn ogystal ag arian ychwanegol i'r cynghorau sy'n cael eu heffeithio waethaf.

Byddai'r ail ran yn ymwneud ag ymgynghoriadau mwy hir-dymor ar rymoedd i gyfyngu ar greu ail-gartrefi a chartrefi newydd a mwy o rymoedd amrywio trethi yn lleol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fyddai'r peilot cychwynnol yn "adeiladu ar y gefnogaeth ymarferol mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei chynnig i fynd i'r afael â fforddiadwyedd ac argaeledd tai ac yn cael ei deilwra i ateb anghenion pobl yn yr ardal," ac fe fyddai "dwy swydd benodol i gefnogi gwireddu'r peilot".

Wedi i BBC Cymru ofyn pam nad oedd y ddwy swydd honno wedi cael eu hysbysebu eto, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y "peilot ail-gartrefi yn Nwyfor wedi ei lansio ym mis Ionawr, mewn cydweithrediad â phartneriaid. Rydyn ni'n gweithio gyda nhw tuag at recriwtio'r ddwy rôl allweddol a rhoi gwerthusiad angenrheidiol o'r peilot yn ei le."

Yr ymateb yn lleol

Disgrifiad o’r llun,

Carmel Geoghegan, cyn-berchennog tŷ haf yn wreiddiol o ardal Manceinion

"Dwi'm yn hoffi'r baneri (am ail gartrefi), dwi'n meddwl fod nhw'n ofnadwy," meddai Carmel Geoghegan, cyn-berchennog ail dŷ o gyffiniau Manceinion sydd bellach wedi symud i Gymru'n llawn amser.

"Wnaethon ni ddim dod lawr yn ystod y cyfnod clo, roedden ni'n parchu pawb a dwi'n meddwl fod ein pentref lleol yn parchu ni."

Ynglŷn â'r mater o bobl ifanc yn methu fforddio cartrefi'n lleol, ychwanegodd: "Ia, dwi'n cydymdeimlo. All fy mhlant ddim fforddio prynu yn Heaton More, lle gafon nhw'u magu, oherwydd fod nhw'n rhy ddrud.

"Dwi'n deall ac yn cydymdeimlo ond eto fe werthodd Cymro'r tŷ i mi, fe allai fod wedi'i werthu i Gymro arall."

Ond yn ôl Helena Jones a Stephanie Garrod, ill dwy yn byw ac yn gweithio'n lleol, mae'n broblem.

"Dwi'n teimlo dros y blynyddoedd dwytha' fod hi wedi gwaethygu o ran prisiau," dywedodd Helena.

Disgrifiad o’r llun,

Helena Jones (chwith) a Stephanie Garrod (dde)

"Mae'n anodd i rhywun sy'n cychwyn o'r cychwyn. Mae'r prisiau'n boncyrs a mae angen deposit anferth.

"Mae'n dawel yn Abersoch dros y gaeaf, mae nhw'n gwneud eu pres dros yr haf, mae'n bechod.

"Gewch chi ddim lot am filiwn o bunnau dyddiau yma, ond mae'n ddechra."

"Ond mae 'na gêm sy'n cael eu chwarae gyda threth yr ail dai 'ma."

Ychwanegodd Stephanie, sydd wedi sicrhau tŷ yn Abersoch gyda chymorth yr awdurdod lleol: "Mae isho trio gwneud rwbath am y broblem fod pobl lleol methu prynu tai.

"Ond mae ffordd arall o sbio arni- faint o bres mae'r tai haf mae'n dod i'r ardal? Da ni'n dibynnu ar y twristiaeth.

"Mae 'na lot o fusnesau yn Abersoch sy'n gwneud eu pres yn yr haf ac yn galluogi nhw i fyw dros y gaeaf. Does dim swyddi eniwe."

Pynciau cysylltiedig