Oriel: 15 mlynedd o gigs, cefn llwyfan a chloriau albyms
- Cyhoeddwyd
I nodi Dydd Miwsig Cymru, Betsan Haf Evans sy'n dewis rhai o'i hoff luniau iddi dynnu ers dechrau gweithio fel ffotograffydd 15 mlynedd yn ôl, gan egluro'r stori tu cefn i'r llun.
Roedd Ffotograffiaeth Celf Calon yn dri mis oed pan gymeres y llun yma o'r Genod Droog yn 2007. Dyma Aneirin Karadog sydd yn Brifardd erbyn hyn.
Be' dwi'n dwli am y llun yw bod Aneirin wedi ymgolli'n llwyr i'r miwsig. Roedd partneriaeth rhwng Aneirin, Ed a gweddill y band yn drydanol ar y llwyfan gyda'r gallu i wneud i'r gynulleidfa fynd yn wyllt. Roedd gigs Menter Abertawe a Gŵyl Tyrfe Tawe yn ei hanterth ar y pryd. Yn syth ar ôl i mi symud lawr o'r gogledd ac ymgartrefu yn Abertawe, roedd y gigs yma'n gyfle da i ddod i adnabod cymuned Cymraeg yr ardal ac i ymarfer sgiliau tynnu lluniau bandiau byw.
Roedd y noson yma yn fythgofiadwy nid yn unig i'r gynulleidfa oedd wedi syfrdanu gan Derwyddon Dr Gonzo a'r Genod Droog, ond dyma'r noson wnaeth Geth Evs fy ngwahodd i ymuno â'r Genod Droog.
Wrth dynnu lluniau mewn gŵyliau cerddorol neu gigs byw, byddaf wastad yn edrych mas am y lluniau falle bydd neb yn sylwi arnynt ond sydd â photensial i fod yn ddiddorol mewn blynyddoedd i ddod.
Dyma Gruff Rhys yn cloncan gyda Neil a Gwyn Maffia tu fas i gefn llwyfan Gŵyl 50 yn 2012. Roedd gan yr ŵyl dair llwyfan a 50 o fandiau Cymraeg hen a newydd yn perfformio i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn 50 oed. Mas o'r 50 band fe lwyddes i dynnu lluniau o 42 band a dwi'n cyfri pob llun yn drysor.
Cefn llwyfan Gŵyl 50 Cymdeithas yr Iaith yn 2012. O'r chwith i'r dde mae Osian Howells (cefnder Elin a Gwion) sydd wedi chwarae i'r Ods ac Yucatan, Elin Fflur a'i brawd Gwion, oedd yn chwarae drymiau i Racehorses, Gulp, Aldous Harding. Llun teulu yw hwn felly.
Be' dwi'n joio am y llun yma yw'r teimlad o berthyn mae'n rhoi i fi. Y perthyn sydd rhyngddon ni gyd, boed yn waed neu'n gerddorol, gan fod ein rhieni mewn bandiau'r un adeg yn y 70au cynnar. Dyma beth sy'n sbesial am ein Sin Roc Gymraeg - yr elfen o berthyn drwy ein cerddoriaeth a'n diwylliant.
Os fi'n cofio'n iawn dyma Wobrau Selar cyntaf i fi bapo, yn 2014. Cynhaliwyd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth bryd hynny.
Dyma lun o Kizzy Crawford fel rhan o'r gynulleidfa yn gwrando'n astud ar berfformiad Gildas. Llun diddorol iawn ohoni o ongl greadigol wahanol. Roedd Kizzy wedi perfformio'r noson honno hefyd.
Dyma Candelas ar fin soundchecko yn Clwb Ifor Bach ar ôl i fi neud photoshoot gyda nhw ar gyfer cylchgrawn y Selar 'nôl yn 2015.
Mae egni Osian ar y llwyfan yn bleser i ni fel ffotograffwyr wrth iddo roi popeth mewn i'w berfformiad. Ond dyma ochr tu ôl i'r llen fel petai. Mae gen i nifer fawr o luniau o Candelas yn perfformio felly dwi 'di dewis llun ohonynt yn ymlacio yn lle, a gweld y person yn hytrach na'r perfformiwr.
O fi'n joio'r llun yma! Bois Y Ffug a'r Mellt llawn drygioni. Roc a Rôl cefn llwyfan gwobrau'r Selar yn 2015, y lle i'r bandiau adael fynd ar ôl perfformio.
Pan dwi'n mynd nôl i gefn llwyfan ar ôl perfformiad band neu ar ôl iddyn nhw gyflwyno set o wobrau, y bwriad yw i gael saib ond ma' 'na rywbeth diddorol yn digwydd cefn llwyfan o hyd. Y tro hwn Yws Gwynedd yn cael ei gyfweld ar ôl ennill sawl gwobr yn 2019 ac yn rhoi winc i'r camera.
Gwrddes i â Dave Datblygu nol yn '96. Roedd Dave yn ffrindiau mawr gyda fy mrawd. Pryd hynny roedd yn galw draw i recordio yn stiwdio Dad. Ro'n i'n 15 oed ar y pryd a dyma'r adeg ddechreues i chwarae'r drymiau.
Buodd Dave (a fy mrawd) yn garedig iawn yn gadael i mi eistedd yn y gornel yn dawel bach tra roeddent yn recordio ac un tro ges i gyfle i jamio ar y drwms a recordio tamed gyda nhw.
Mae'r llun yma wedi ei chymryd tra ro'n i a Cpt Smith yn cerdded lawr Stryd y Brenin yng Nghaerfyrddin, ro'n i wrthi yn 'neud shoot i gylchgrawn Y Selar a dyma ni yn bwmpo mewn i Dave. Dyma Dave yn fy holi "beth sy' mla'n 'da ti fan hyn de?" Felly nes i gyflwyno Dave i Cpt Smith ac yn syth dyma Dave yn poeri geiriau doeth am y Sin Roc Gymraeg i'r bois, gwmws yr un ffordd â na'th e i fi yn 15 oed. Diolch i Dave am ei ysbrydoliaeth roc a rôl!
Dwi wrth fy modd yn tynnu lluniau bandiau ar gyfer pwrpas albwm neu gylchgronau fel Y Selar, mae'n rhoi cyfle i arbrofi syniadau hollol wallgof weithiau. Felly wrth wneud shoots Y Selar yn aml mae gen i syniad yn fy mhen o'r fath o luniau dwi eisiau cymryd o'r band. Ond y tro hwn yr annisgwyl sydd yn cipio'r prif syniad.
Trefnais i gwrdd â'r band Cadno ar stryd yng Nghaerdydd ac os fi'n cofio'n iawn roedd un aelod yn rhedeg yn hwyr a dyma fe'n troi lan ar gefn ei feic. Felly ges i'r syniad o ofyn i Rebecca Hayes, sef prif leisydd Cadno, i fynd ar gefn y beic a seiclo drwy'r band ac unwaith roedd hi yn y blaen ar gefn beic, gymeres i'r llun.
Un o fy hoff luniau erioed... shoot o 2018 ar gyfer marchnata Albwm DNA, Llinyn Arian. Roedd hi'n noson berffaith i dynnu lluniau a gweld golygfa orau Bae Abertawe a digwydd bod, roedd y lleoliad reit tu ôl i dŷ Angharad Jenkins.
Dwi jest yn dwlu ar lonyddwch y llun a golau'r eurawr yn bwrw wyneb Angharad - oedd yn cyfateb ei het a'r ffidl. Beth sy'n sbesial am y llun yma yw ei bod yn dangos ble mae gwreiddiau Angharad ac er ei bod yn teithio'r byd yn perfformio, ry'n ni gyd yn gwybod bod ei gwreiddiau gwerinol yn ddwfn iawn yn Abertawe.
Does dim byd gwell na dal moment fel hyn yn ystod gwobrau'r Selar, pan mae pobl wedi ymgolli yn y dathlu a ddim yn sylwi fy mod i yna'n tynnu lluniau.
Dyma fois Gwilym yn dathlu gyda chyflwynwyr y noson a Nannon Evans oedd yn gweithio i Pyst ar y pryd, cyn i Gwilym fynd 'nôl ar y llwyfan i gloi noson Selar 2019, sef y Gwobrau olaf i mi papo cyn i'r pandemig fwrw ni gyd.
Pan glywes i sôn bod Clwb Ifor Bach yn trefnu gig Mr yng Ngwobrau'r Selar 2019 o'n i'n benderfynol o papo'r gig. Fel ffan mawr o Catatonia yn y 90au, weles i nhw'n perfformio sawl gwaith mewn gigs lleol yn ardal Llandysul ond y cyfle gorau i weld nhw pryd 'ny o'dd yn Roc y Cnapan. Bydden i'n cynilo fy arian cinio drwy'r flwyddyn er mwyn gallu prynu tocyn i'r Cnapan.
Bues i yn lwcus yn byw mor agos i'r Cnapan, roedd e'n gyfnod sbesial iawn gallu tyfu lan gyda bandiau anhygoel fel Catatonia, Gorky's, Big Leaves, Anweledig i enwi ond rhai. Felly pan ges i'r cyfle i hongian mas gyda chyn aelodau Catatonia, nid yn unig y gig oedd yn bwysig i gofnodi ond roeddwn i eisiau cofnodi beth sy'n digwydd cyn gig sef y paratoi a'r soundchecko. Dyma Mark Robert yn newid strings ei gitâr yn ystod y soundcheck.
Dyma fy hoff lun o Lleuwen yn perfformio, mae wedi ymgolli'n llwyr yn y gerddoriaeth o flaen ei choeden gitârs. Fel Osian Candelas mae Lleuwen yn gantores sbesial i dynnu lluniau ohoni, mae'n gallu troi cynulleidfa rownd ei bys bach, mae'n hudolus.
I fod yn gwbl onest â chi, o'n i ddim eisiau tynnu lluniau'r noson honno, o'n i yna i wrando ar fy ffrind Lleuwen. Ond mae'r camera yn gyffur i mi a dwi ddim yn gallu mynd mas o'r tŷ hebddi achos mae'r llais yn fy mhen yn dweud 'by ti'n difaru'. Ac wrth gwrs dwi'n falch nawr fy mod i wedi mynd a'r camera er mwyn dal y foment yma.
Mae Arwel Lloyd yn artist sydd bob amser yn bendant gyda'i syniadau am luniau a lleoliadau ar gyfer lluniau. Wrth wneud prosiectau cerddorol a rhyddhau miwsig mae o hyd yn meddwl am y pecyn cyfan, sydd yn grêt oherwydd mewn ffordd, mae'n dangos parch i bob elfen o gynhyrchu cerddoriaeth.
Dwi wedi gweithio gydag Arwel nifer o weithiau dros y blynyddoedd ac mae'n bleser bob tro. Digwydd bod Gildas oedd y band cyntaf i mi bapo i gylchgrawn Y Selar 'nôl yn 2011. Ond y llun yma dwi 'di ddewis (ohono gyda'i gyd-aelod o PRIØN, Celyn Llwyd) gan ein bod ni wedi tyfu a datblygu yn greadigol ers y shoot cyntaf yn 2011. Dyma noson hyfryd mis Medi a'r haul ar fin machlud a thawelwch ym mhob man.
Pan ffoniodd Tara gyda'i syniadau am luniau ar gyfer ei reinvention cerddorol, o'n i'n hollol gyffrous! Dwi wrth fy modd pan mae bandiau neu artistiaid eisiau gwisgo lan a bod yn hollol greadigol wrth gyfleu eu hunain yn eu celfyddyd, mae'n gwneud gymaint o synnwyr a chymaint o wahaniaeth.
Os i chi eisiau sefyll mas fel artist yna man a man mynd amdani gyda'r ddelwedd sy'n gynrychiolaeth lwyr o fynegiant yr artist mewn cyfnod penodol yn eu bywyd nhw. Dyma shoot llawn sbort, lot fawr o chwerthin a chyffro - y fath sy'n fix da i'r enaid creadigol. Dyma'r llun defnyddiodd Tara Bandito ar gyfer ei sengl diweddara Blerr yn 2021. Cadwch lygaid mas gan fod mwy ar y ffordd.