Gwyliau coll

  • Cyhoeddwyd

Gyda Gŵyl Gopr Amlwch yn cyhoeddi ei bod wedi dod i ben ar ôl 10 mlynedd oherwydd pwysau ariannol pa wyliau cerddorol eraill Cymru sydd wedi dod, ac wedi mynd?

Dyma i chi rai allai brocio'r cof am hafau hir eich ieuenctid:

Gŵyl Werin y Cnapan a Roc y Cnapan

Ffynhonnell y llun, Iwan ap Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Pigyn Clust yn Ngŵyl Werin y Cnapan 1995

Yn ystod y nawdegau roedd Gŵyl y Cnapan yn Ffostrasol, oedd yn cynnwys gŵyl werin a gŵyl roc, wedi tyfu i fod yn un o brif wyliau cerddorol Cymru. Ond daeth i ben yn 2002 ar ôl "tyfu'n rhy fawr".

Cafodd yr enw ei atgyfodi gan drefnwyr newydd ar gyfer gŵyl gerdd newydd yn yr ardal yn 2013.

Miri Madog

Ffynhonnell y llun, Rhys Mwyn

Roedd Miri Madog ar gaeau Clwb Chwaraeon Porthmadog yn un arall o wyliau mawr yr haf yn niwedd yn y 1990au a dechrau'r 2000au ond 2005 oedd ei blwyddyn olaf.

Yn yr ŵyl honno y chwaraeodd Topper eu gig olaf cyn ailffurfio dros 10 mlynedd yn ddiweddarach yn 2016 - mae clip o'u perfformiad yn 2005 ar You Tube, dolen allanol.

Gŵyl Gardd Goll

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Swnami yn perfformio yn yr Wyl Gardd Goll ddiwetha ym Mhlas Newydd, Môn, yn 2014

Cafodd hon ei chynnal mewn gwahanol leoliadau dros y blynyddoedd, gan gynnwys Plas Newydd ym Môn, y Faenol ger Felinheli a Glynllifon ger Caernarfon.

Roedd y ddiwethaf yn 2014.

Wakestock

Ffynhonnell y llun, Jonty Storey
Disgrifiad o’r llun,

Wakestock

Cyhoeddodd trefnwyr Wakestock ym Mhen Llŷn na fyddai'r ŵyl yn digwydd yn 2015 a dydi hi ddim wedi dod nôl eto.

Yn aml yn digwydd tua'r un amser â'r Sesiwn Fawr yn Nolgellau roedd hi'n cyfuno enwau mawr y byd tonfyrddio efo enwau mawr miwsig dawns am gyfnod o 14 mlynedd.

Gŵyl y Faenol

Roedd yr ŵyl yma yn y Faenol ger y Felinheli - gŵyl Brynfest i rai am iddi gael ei sefydlu gan Bryn Terfel - yn mynd am 10 mlynedd rhwng 2000 i 2010 ac yn dipyn o achlysur lleol.

Er ei bod yn cael ei chynnal ym mis Awst fe gafodd ei siâr o law ond cafwyd cyngherddau cofiadwy hefyd gan artistiaid o Gymru a thu hwnt fel Shirley Bassey, Andrea Bocelli, José Carreras, Katherine Jenkins, Catrin Finch, Westlife, Michael Ball, Connie Fisher, Bryn Fôn ac Edward H. Dafis.

Gŵyl Gwydir

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Candelas yn Ngŵyl Gwydir

Gŵyl yn ardal Llanrwst, Dyffryn Conwy gyda'r gyntaf yn 2009 a'r ddiwethaf yn 2014. Fydd na un arall?

Gŵyl Macs

Disgrifiad o’r llun,

Swci Boscawen yng Ngŵyl Macs 2007

Roedd yr ŵyl hon yng Nghaerfyrddin yn cael ei disgrifio fel gŵyl gerddoriaeth a sglefrfyrddio ac fe gafodd ei chynnal am tua tair blynedd ar ddiwedd y 2000au.

Yn 2007 roedd na lein-yp eang ac amrywiol oedd yn cynnwys The Magic Numbers, Fflur Dafydd, Llwybr Llaethog, Swci Boscawen, Meic Steven a Zabrinski.

Gŵyl Dinefwr

Disgrifiad o’r llun,

Bryn Fôn yng Ngŵyl Dinefwr 2008

Cyn bod sôn am Ŵyl Lenyddol Dinefwr, a enillodd wobr aur yng Ngwobrau Trwistiaeth Cymru 2015 ond sydd heb eu chynnal ers hynny, roedd na Ŵyl Dinefwr arall yn cael ei chynnal am gyfnod yn Llanymddyfri gyda bandiau Cymraeg a digwyddiadau lleol eraill.

Mae nifer o rai eraill wedi mynd a dod dros y blynyddoedd fel Miri Myrddin yng Nghaerfyrddin, Gŵyl Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog, Gŵyl Pen Draw'r Byd yn Aberdaron ond prin yw'r lluniau ohonyn nhw.

Gadewch inni wybod os oes gennych chi rai! Anfonwch at cymru@bbc.co.uk

Hefyd gan y BBC