Llifogydd ym Mhowys wrth i Storm Franklin adael ei hôl
Mae'r drydedd storm i daro Cymru mewn wythnos wedi achosi llifogydd yn sawl rhan o Bowys.
Roedd tiroedd ar draws Cymru eisoes yn wlyb yn dilyn Stormydd Dudley ac Eunice cyn i Storm Franklin gyrraedd nos Sul.
Fe gofnodwyd y lefelau uchaf erioed yn achos Afon Hafren yn Y Drenewydd ac yn Llanidloes, Afon Efyrnwy ym Meifod a Llanymynech ac Afon Ieithon yn Llanddewi.
Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi yn Llandinam wedi i Afon Hafren orlifo, a bu'n rhaid achub saith o unigolion o'u heiddo mewn cwch.
Er bod rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd wedi dod i ben a'r sefyllfa wedi dechrau gwella'n gyffredinol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio pobl i gadw'r draw o afonydd gan eu bod yn dal yn gymharol uchel.