Gwynt a llifogydd yn achosi tarfu pellach ledled Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae tywydd garw yn greu trafferthion pellach wrth i Storm Franklin - y drydedd storm mewn wythnos - daro Cymru.
Roedd rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am wynt mewn grym tan 13:00 ddydd Llun, gyda disgwyl hyrddiadau hyd at 75mya.
Ond fe ddywedodd y Swyddfa Dywydd fod hyrddiad o 79mya wedi'i gofnodi yng Nghapel Curig fore Llun, a 75mya yn Aberdaron.
Yn ôl Scottish Power, amser cinio roedd bron i 1,200 o gwsmeriaid yng ngogledd Cymru wedi colli eu cyflenwad trydan.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi derbyn 100 o alwadau am lifogydd o fewn 24 awr o 07:00 fore Sul.
Bu'n rhaid i'r gwasanaeth ddefnyddio cwch i achub 51 o bobl o fws yn ardal Llwynderw ger Y Trallwng wedi i'r cerbyd fynd yn sownd mewn dŵr.
Gyda'r disgwyl y byddai yna drafferthion ar y ffyrdd roedd 'na rybudd i bobl beidio â theithio ar drenau'r Deyrnas Unedig oni bai bod wir angen am fod y tywydd wedi amharu ar sawl gwasanaeth.
Mae amryw o ffyrdd wedi bod ynghau ledled Cymru, dolen allanol oherwydd gwyntoedd neu lifogydd, gan gynnwys hen Bont Hafren, a'r A470 yng Nghaersws, Rhaeadr a Llanfair-ym-Muallt.
Mae degau o rybuddion llifogydd, dolen allanol wedi bod mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru hefyd.
'Dŵr i fyny at y botwm bol'
Roedd Aled Vaughan, sy'n byw yn Sir Drefaldwyn erioed ac yn Llandinam ers chwarter canrif, yn un o'r rhai fu'n helpu achub nifer o bobl o'u tai yn y pentref nos Sul wedi i Afon Hafren orlifo.
"Ar un adeg roedd y dŵr i fyny at y botwm bol yn y tŷ," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
Ymhlith y bobl a gafodd eu hachub oedd menyw 95 oed oedd yn byw ar ei hun a chwpl yn eu 70au canol.
"Mae yna rwla obiti hanner dwsin o dai sydd heddiw dan ddŵr a mae fel bod bom 'di mynd off lawr 'na... mae'n ofnadwy."
Fe ddisgrifiodd sut y gwaethygodd y sefyllfa yn gyflym iawn.
"Fe ddigwyddodd y dŵr - o fod yn cerdded o amgylch y tai yn trio codi dodrefn i fod fyny at eich pen-glin - mewn 10 munud o amser. Fe gododd y dŵr mor gyflym â hynny.
"Unwaith stopiodd y dreinie i fynd â'r dŵr i ffwrdd... oeddach chi'n gallu cl'wed nhw'n byblan a peth nesa' dyma fo'n codi..."
"Oedd rhaid ce'l nhw o 'na, o'dd rhaid neud siŵr bod nhw 'di dod â'u meddyginiaeth efo nhw, a neud siŵr lle oedden nhw yn mynd i fynd am y noswaith."
Dywedodd bod "lorri artic 'di torri lawr yn y pentre [a] hanner dwsin o geir wedi torri lawr ar y briffordd".
"Oedd bob ffordd ar un adeg.... wedi cau so oedd dim gobaith mynd â neb i nunlle - yn bell beth bynnag.
"Oedd 'na bobl yn y pentre isio mynd i Gaerdydd, isio mynd i Aberystwyth, isio mynd i'r gogledd ac oeddan nhw'n styc yng nghanol Cymru.
"Dwi'n fachgen o Sir Drefaldwyn erioed a dwi'n byw yn Llandinam ers 25 mlynedd a 'dan ni 'di c'el un llifogydd yna cynt ond dim byd i'r raddfa ddoe... dwi 'rioed 'di gweld yr afon mor uched â hynne."
Achub pobl o gerbydau
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ryddhau pobl o gerbydau oedd yn sownd mewn llifogydd yng ngogledd Powys ac yn Sir Wrecsam yn gynnar bore Llun.
Roedd yna ddau ddigwyddiad o'r fath yn ardal Llanymynech, ond mewn achos ar yr A525 ym Mangor Is-coed roedd teithwyr wedi cael eu hunain allan o'u cerbyd cyn i'r heddlu gyrraedd wedi galwad am 04:30.
Dywed Network Rail bod tua 100 o goed wedi cwympo ar draciau ar draws Cymru yn sgil stormydd Dudley ac Eunice a bod cannoedd o beirianwyr wedi bod yn gweithio trwy penwythnos i glirio'r difrod.
"Mae nifer o eitemau wedi eu clirio o'r rheilffyrdd yng Nghymru y penwythnos yma yn cynnwys trampolîn, toeau sinc a phaneli ffens cyfan," ychwanegodd llefarydd.
Fe ddylai pobl sy'n bwriadu teithio ar y trên ddydd Llun wirio'r amserlen yn rheolaidd, yn ôl Marie Daly o Drafnidiaeth Cymru.
"Fe fydd cyfyngiadau cyflymder yn golygu lleihad i'n hamserlen," meddai.
Fodd bynnag, dywedodd hi y "dylai fod gwasanaethau drwy ein rhwydwaith gyfan - os nad yw'n drên fe fydd gwasanaeth bws yn lle".
Ddydd Sul, roedd gwasanaethau bws rhwng Aberystwyth a Machynlleth a rhwng Abertawe a Swydd Amwythig. Y gobaith yw i'r gwasanaethau trên fedru ailgychwyn ddydd Llun.
'Cadwch bant o'r afonydd'
Mae'r lefelau uchaf erioed wedi eu cofnodi yn achos sawl afon ym Mhowys - Afon Hafren yn Y Drenewydd ac yn Llanidloes, Afon Efyrnwy ym Meifod a Llanymynech ac Afon Ieithon yn Llanddewi.
Mae disgwyl llifogydd mewn mannau ar hyd Afon Hafren o gwmpas Y Trallwng ac hefyd ar Afon Efyrnwy yn Llansanffraid, Llanymynech a Meifod.
Wrth siarad ar Radio Cymru, dywedodd Huwel Manley o CNC mai tir amaethyddol oedd dan ddŵr yn bennaf a bod y trafferthion gwaethaf yn ardaloedd prif afonydd Powys.
"Bydden ni'n gweithio heddi gyda'r awdurdodau lleol a gweld yn union faint o dai sy'n cael eu heffeithio," meddai ar raglen Dros Frecwast.
Ategodd y cyngor i bobl osgoi teithio os yn bosib gan fod "nifer o'r hewlydd dal ar gau, yn enwedig lonydd bach dal dan ddŵr".
Rhybuddiodd hefyd bod lefelau afonydd yn dal yn codi yn rhannau isaf dyffrynnoedd Hafren a Gwy, er bod lefelau'n dechrau gostwng mewn ardaloedd uwch.
"Plîs bobl, cadwch bant o'r afonydd - maen nhw'n beryg, maen nhw'n uchel," dywedodd.
Dywedodd Traffig Cymru bod eu graeanwyr wedi gweithio dros nos, gan rybuddio gyrwyr am iâ ar y ffyrdd.
Penderfynodd y Llyfrgell Genedlaethol y byddai'n aros ar gau o ganlyniad i'r tywydd garw.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cadarnhaodd Clwb Pêl-droed Abertawe ddydd Llun bod eu bod wedi gohirio'u gêm Bencampwriaeth yn erbyn Bournemouth nos Fawrth "yn dilyn difrod i Stadiwm Swansea.com gan Storm Eunice ac amodau tywydd garw sy'n parhau".
Dywed y clwb bod yr amodau wedi gwneud hi'n "amhosib i gynnal asesiad llawn o'r difrod a chynnal y gwaith atgyweirio angenrheidiol cyn gêm nos yfory".
Roedd degau o filoedd o gartrefi heb drydan dros y penwythnos wedi gwyntoedd hyd at 92mya ddydd Gwener.
Dywedodd Sean Sullivan, rheolwr gwasanaethau rhwydwaith gyda chwmni Western Power Distribution bod y penwythnos wedi bod yn un "eithriadol o heriol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022