Tywydd 'mor ddrwg â 'dan ni wedi gweld ers talwm iawn'

Mae'r drydedd storm i daro Cymru mewn wythnos wedi achosi llifogydd yn sawl rhan o Bowys.

Roedd tiroedd ar draws Cymru eisoes yn wlyb yn dilyn Stormydd Dudley ac Eunice cyn i Storm Franklin gyrraedd nos Sul.

Dywedodd Alwyn James o Lanerfyl fod y glaw a'r gwynt a welwyd yno ddydd Sul "mor ddrwg â 'dan ni wedi gweld ers talwm iawn".

Yn ôl sy'n Mr James, sy'n berchen ar garej yn y pentref, roedd lefel Afon Banwy trwy "mor uchel ag ydw i wedi'i weld erioed".

Ychwanegodd fod nifer o bobl wedi gorfod gadael eu ceir wedi iddyn nhw fynd yn sownd mewn llifogydd.