Meinir Gwilym yn nodi 20 mlynedd o Smôcs, Coffi a Fodca Rhad

Ugain mlynedd yn ôl - a hithau'n dal yn ei harddegau - daeth Meinir Gwilym i amlygrwydd fel un o artistiaid newydd mwyaf poblogaidd y cyfnod gyda'i EP gyntaf - Smôcs, Coffi a Fodca Rhad.

Bellach yn wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd ar S4C, mae wedi ailrecordio'r caneuon i nodi ei 20 mlwyddiant.

Dyma ei hatgofion o'r cyfnod.