Lle oeddwn i: Smôcs, Coffi a Fodca Rhad, Meinir Gwilym
- Cyhoeddwyd
Ugain mlynedd yn ôl - a hithau'n dal yn ei harddegau - daeth Meinir Gwilym i amlygrwydd fel un o artistiaid newydd mwyaf poblogaidd y cyfnod gyda'i EP gyntaf, Smôcs, Coffi a Fodca Rhad. Bellach yn wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd ar S4C, mae wedi ailrecordio'r caneuon i nodi'r 20 mlwyddiant. Dyma ei hatgofion o'r cyfnod.
Ro'n wedi bod yn sgwennu caneuon ers o'n i tua 15 oed, 19 mlwydd oed o'n i 20 mlynedd yn ôl.
Es i i'r coleg yng Nghaerdydd ac ro'n i'n chwarae caneuon, ac yn 'sgwennu mwy, ac roedd rhai o fy ffrindiau wedi eu clywed nhw. Ac yn y diwedd wnes i ennill cystadleuaeth yn y 'Steddfod Ryng-golegol.
Wedyn wnaeth Rhys Iorwerth, y prifardd erbyn hyn, oedd mewn band ar y pryd o'r enw Quidest, awgrymu 'Pam na wnei di yrru demo tape i'r label dwi efo nhw?' A Gwynfryn Cymunedol oedd rheiny.
Do'n i ddim eisiau a dweud y gwir ond wedyn ro'n i'n meddwl, 'Be dwi'n mynd i'w wneud efo'r holl ganeuon yma?' Ac yn y diwedd wnes i recordio demo bach tua mis Mai 2002 a wnaethon ni recordio Smôcs, Coffi a Fodca Rhad a ddoth hi allan ym mis Rhagfyr 2002.
Ar y pryd roedd 'na raglen ar Radio Cymru yn y nos o'r enw Gang Bangor a dwi'n cofio bod yn y tŷ yng Nghaerdydd ac un o'r caneuon yn cael eu chwarae am y tro cyntaf. Dwi'n cofio bod mor nyrfys ro'n i'n teimlo'n sâl!
Ond gafodd hi ymateb da. Oedd hi reit wahanol i bethau eraill oedd o gwmpas ar y pryd felly doedd rhywun ddim yn gwybod os oedd pobl yn mynd i licio fo ai peidio. Ond fuodd hi'n llwyddiannus.
8,000 yn y Faenol
O fanna 'mlaen oedd hi'n ofnadwy o brysur. Yr haf canlynol oeddan ni'n canu yn Sesiwn Fawr Dolgellau, honna oedd yr ŵyl fawr gyntaf wnes i a dwi'n cofio mor nyrfys o'n i.
Ar ôl cael set lwyddiannus yn Sesiwn Fawr wnaethon ni wedyn gael cynnig mynd i chwarae yng Ngŵyl y Faenol ac oedd hynny'n waeth byth, oedd 'na tua 8,000 o bobl yna ac roedd o'n brofiad anhygoel. O'n i ddim ond newydd ddechrau canu fy nghaneuon fy hun o flaen pobl eraill, ac i ganu yn y Faenol y flwyddyn ganlynol - oedd o'n anhygoel.
'Angst' yr arddegau
Nes i sgwennu'r rhan fwyaf o'r caneuon yn y cyfnod pan o'n i rhwng 14 a 19 oed. Mae dod yn ôl atyn nhw 20 mlynedd wedyn... fedri di ddim peidio eu dehongli nhw mewn ffordd wahanol.
Be' sy'n anodd ydi peidio â sbïo ar y caneuon [a meddwl] 'O, o'n i'n hogan bach pan o'n i'n sgwennu rhain' achos dwi'n dal yn sgwennu am yr un pethau a'r un pethau sy'n fy ysbrydoli fi o hyd.
Ond dwi yn clywed y teenage angst yna, dwi yn clywed y ffordd o'n i'n meddwl pan o'n i yn fy arddegau ac oedd hynny dipyn bach yn anodd wrth eu hailrecordio nhw. Mae eu canu nhw'n fyw yn un peth achos mae pobl yn eu gwybod nhw, maen nhw'n canu efo chdi, ond wrth eu hailrecordio nhw 'oedd rhaid i fi sbïo arnyn nhw yn wrthrychol mewn ffordd a'u derbyn nhw am be' ydyn nhw.
Ella fyswn i'n eu sgwennu nhw yn wahanol erbyn hyn ond fedrai ddim eu newid nhw na fedra'?