Newid siop wag yn fflatiau ar stryd fawr Bangor?

Mae adeilad hen siop ddillad ar stryd fawr Bangor wedi bod yn wag ers iddi gau yn 2020.

Nawr, mae yna gynlluniau i'w addasu er mwyn gwneud lle i fflatiau a busnesau.

Daw hyn wrth i arbenigwr ddweud fod newid i natur y stryd fawr draddodiadol yn anochel.

Bu Newyddion S4C yn holi rhai aelodau o'r cyhoedd ym Mangor am eu barn ar y datblygiad.