'Newid natur y stryd fawr draddodiadol yn anochel'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bryd i ni ddod i arfer â chanol trefi fydd yn gyfuniad o siopau, swyddfeydd a llefydd byw yn y dyfodol, yn ôl economegydd blaenllaw.
Dywedodd Dr Edward Jones fod newid i natur y stryd fawr draddodiadol yn anochel, a bod angen croesawu gweld mwy o bobl yn byw a gweithio yno.
Daw hynny wrth i gynlluniau gael eu cyflwyno i addasu adeilad hen siop ddillad ar stryd fawr Bangor er mwyn gwneud lle i 24 o fflatiau, a gofod i fusnesau ar y llawr isaf.
Fe wnaeth swyddogion Cyngor Gwynedd argymell gwrthod y cynllun ar gyfer hen siop Peacocks, ond pleidleisio o'i blaid wnaeth cynghorwyr.
Galw am lety o safon
Caeodd Peacocks ddrysau eu siop yng nghanol y ddinas flwyddyn a hanner yn ôl, ac ers hynny mae'r lle wedi bod yn wag.
Mae'n dilyn patrwm cyfarwydd ym Mangor a threfi eraill yng Nghymru, gyda siopau fel Debenhams a H&M hefyd wedi gadael y stryd fawr.
Bellach mae cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i Gyngor Gwynedd fyddai'n golygu troi'r lloriau uwch yn 18 o fflatiau gydag un neu ddwy ystafell wely, a bloc newydd o chwe fflat dwy ystafell wely yng nghefn yr adeilad.
Byddai'r llawr gwaelod sy'n wynebu'r stryd fawr yn cael ei droi'n ofod aml-bwrpas ar gyfer busnesau.
Ond er i swyddogion cynllunio argymell gwrthod y datblygiad, fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio o blaid y cynnig mewn cyfarfod cynllunio diweddar, gan ddadlau bod angen mwy o lety o safon uchel yn yr ardal.
Ar Stryd Fawr Bangor, roedd y farn yn unfrydol fod angen gwneud rhywbeth gyda'r adeilad.
"'Swn i'm yn licio gweld nhw'n eu troi nhw'n fflatiau i stiwdants achos mae 'na gymaint o'r rheiny ym Mangor," meddai Norman Owen.
"Ond 'san nhw'n troi o'n fflatiau i bobl leol fyw, 'swn i'm yn erbyn o."
Ychwanegodd Mair Owen: "Mae 'na gymaint isio tai a fflatiau dyddiau yma, ac os 'dyn nhw'm yn medru ei werthu o neu ei osod o, waeth iddyn nhw droi nhw'n fflatiau i bobl fyw ynddyn nhw."
Doedd Poppy Roberts ddim yn gweld problem gyda natur y stryd fawr yn newid rhywfaint 'chwaith os ydy o'n golygu bod mwy o bobl yn cael eu denu yno.
"Mae pobl digartref o gwmpas ac yn gorfod mynd i hostels a stwff - 'sa hwn yn amazing," meddai.
"Mae o mewn lle mae loads o stwff yn mynd ymlaen, felly mae'n syniad da."
Ond petrusgar oedd rhai o'r rheiny sydd yn rhedeg busnesau ar y stryd fawr - gan gynnwys y rhai gyferbyn â'r siop wag bresennol.
"'Swn i'n hoffi cael siop fawr yna efo enw, fath â Primark neu rywbeth felly," meddai Valerie Wright, sy'n rhedeg siop gardiau.
"Ond mae'r fflatiau bach ma'n well na dim byd, a siopau bach o dan nhw - mae'n well nag edrych ar adeilad gwag tydi!
"Mae pobl yn sbïo lawr stryd, gweld siopau bach a cerdded yn ôl, felly 'dan ni'n gobeithio os fysan nhw'n gweld siopau bach ddown nhw lawr."
Ychwanegodd Ramazan Yasar, sy'n rhedeg siop farbwr dros ffordd i'r hen Peacocks, mai gostwng cyfraddau busnes fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r stryd.
"Yn bersonol fyswn i ddim yn cytuno efo fflatiau ar y stryd fawr, achos fel busnes bach 'dan ni isio siopau mawr yma i 'neud i bobl ddod mewn i'r dref.
"Os oes mwy o bobl yn y dref, mae'n golygu mwy o fusnes i ni."
'Patrwm tebyg ar draws y byd'
Yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor, bydd yn rhaid i ganol trefi ar draws Cymru addasu er mwyn ffynnu yn y dyfodol - a phob un angen ystyried hefyd beth sy'n gweithio orau i'w hardal nhw.
"Mae hwn 'di bod yn dueddiad sydd 'di bod yn digwydd ers peth blynyddoedd, a'r pandemig wedi cyflymu'r broses yna," meddai.
"Felly mae'r stryd fawr yn gorfod mynd yn rhywle lle 'dan ni yn cario 'mlaen i siopa, ond hefyd yn rhywle lle 'dan ni'n byw, yn gweithio, felly 'dan ni angen i adeiladau'r stryd fawr newid i mewn i dai i bobl, a llefydd i weithio.
"'Di hyn ddim yn rhywbeth unigryw i ni yng Nghymru. 'Dan ni'n edrych ar strydoedd mawr ar hyd y byd, yn Ffrainc, yn Canada, a 'dan ni'n gweld patrwm tebyg yn fan 'na.
"Mae'r stryd fawr yn rhywle lle mae cymdeithas yn dod at ei gilydd i ddathlu, cwrdd a chael hwyl, yn ogystal â siopa."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021