Offerynnau i ddisgyblion: 'Pwysig cefnogi'r gweithlu'

Bydd mynd i'r afael ag "amodau amrywiol" i diwtoriaid cerdd mewn gwahanol rannau o Gymru yn rhan allweddol o gynllun i gynnig offeryn cerdd i bob disgybl yng Nghymru, yn ôl y Gweinidog Addysg.

Mae cefnogi'r gweithlu yn elfen ganolog o ddarparu'r gwasanaeth, meddai Jeremy Miles wrth raglen Dros Frecwast fore Mawrth.

Wedi'i ofyn am amodau i diwtoriaid, dywedodd fod "sialensiau wedi bod mewn amryw o lefydd oherwydd hynny".

Prif nod y cynllun yw ei gwneud yn haws i bob plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol - yn enwedig plant o gefndiroedd difreintiedig a phlant sydd ag anghenion addysg ychwanegol.