Pob plentyn i gael cynnig offeryn cerdd yn yr ysgol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bronwen Lewis: 'Ma'r plant yn llawn egni'

Bydd pob plentyn yng Nghymru yn cael cynnig offeryn cerdd i'w ddefnyddio yn yr ysgol fel rhan o Gynllun Cerdd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae'r arian sydd ar gael i ddysgu cerdd yn ysgolion Cymru yn cael ei dreblu i £13.5m dros y tair blynedd a hanner nesaf.

Prif nod y cynllun yw ei gwneud yn haws i bob plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol - yn enwedig plant o gefndiroedd difreintiedig a phlant sydd ag anghenion addysg ychwanegol.

Mae'r llywodraeth yn gobeithio y bydd rhoi mwy o cyfleoedd i ddisgyblion fwynhau cerddoriaeth a chwarae offerynnau yn cryfhau ac yn amddiffyn iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Llyfrgell o offerynnau

Ers 2018-19 mae £1.5m wedi'i neilltuo gan Lywodraeth Cymru tuag at gerddoriaeth mewn ysgolion.

Disgrifiad o’r llun,

Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Cadeirlan San Joseff yn Abertawe yn chwarae'r iwcalili

Fe fydd y swm fydd ar gael i ddysgu cerddoriaeth mewn ysgolion yn £4.5m y flwyddyn - bydd yr arian ychwanegol yn sicrhau fod disgyblion cynradd yn cael sesiynau profi offerynnau dan oruchwyliaeth cerddorion cymwys. Fe fydd hynny yn parhau am o leiaf hanner tymor ysgol.

Dywedodd y Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae unrhyw un ohonom ni sydd wedi cael y cyfle yn yr ysgol i ddysgu i ganu offeryn yn gwybod pa mor fuddiol mae e a cymaint o gyfleon sy'n dod yn sgil gallu gwneud hynny.

"Mae'r gwasanaeth ry'n ni yn lansio yma heddi yn darparu cyfleoedd i blant ymhob rhan o Gymru a chyfle hafal lle bynnag ry'ch chi'n byw, ond hefyd amrywiaeth o gyfleon hefyd."

Y bwriad yw rhoi cyfle i ddisgyblion chwarae sawl offeryn fel y gallan nhw ganolbwyntio ar eu hoff offeryn yn yr ysgol uwchradd.

Disgrifiad,

Dywed Jeremy Miles fod amodau i diwtoriaid cerdd wedi bod yn her yn y gorffennol

Bydd cyfle hefyd i bob plentyn rhwng 3 ac 16 gael benthyg offeryn yn yr ysgol ac yn eu cartref.

Er mwyn galluogi hyn y bwriad, o fis Medi eleni, yw creu llyfrgell o offerynnau a theclynnau fydd ar gael i'w rhannu ar draws Cymru.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru dylai pob plentyn gael y cyfle i chwarae rhan yn nhraddodiadau cerddorol Cymru.

"Roedd dysgu chwarae offeryn yn rhan bwysig o'm plentyndod," meddai Mark Drakeford, "a dylai diffyg arian ddim fod yn rhwystr i unrhyw blentyn sydd eisiau cael y cyfle i ddysgu chwarae cerddoriaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles a Mark Drakeford yn lansio'r cynllun newydd yn Ysgol Gynradd Cadeirlan San Joseff yn Abertawe

Mi fydd yr arian ychwanegol hefyd yn talu am Wasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol a'r nod yw cael mudiadau a chlybiau lleol i helpu ysgolion i ddarparu mwy o gyfleoedd amrywiol y tu hwnt i'r dosbarth.

Gwasanaethau cerdd ysgolion yn 'fregus'

Dywedodd un telynor amlwg bod gwasanaethau cerdd mewn ysgolion mewn cyflwr "bregus" wedi'r pandemig a blynyddoedd o dorri cyllidebau.

Yn ôl Dylan Cernyw mae angen "adeiladu" gwasanaethau a denu disgyblion yn ôl i wersi offerynnol.

Yn aelod o gwmni Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, dywedodd ei fod yn croesawu'r setliad ariannol "hael iawn" ond bod "lot o waith adeiladu i'w wneud".

"Mae hi'n fregus o hyd ar wasanaethau cerdd, er bod yr arian yn wych... Mae angen lot o waith i gynnal gwasanaethau, i gadw gwasanaethau i fynd, ac annog y plant a'r bobl ifanc yma i barhau efo'r gwersi.

Disgrifiad o’r llun,

Dylan Cernyw: 'Mae 'na lot o blant wedi colli allan ar wersi offerynnol a gwersi canu'

"Mae'r gwasanaethau cerdd wedi ei chael hi'n ddrwg dros y blynyddoedd, cyn y Covid 'ma.

"Ac mae hi wedi bod yn anoddach wedyn yn ystod y ddwy flynedd [ddiwethaf] - mae 'na lot o blant wedi colli allan ar wersi offerynnol a gwersi canu.

"Ac ers i ni ddod yn ôl i'r ysgolion rŵan, mae hi wedi bod yn anodd cael plant i ddod yn ôl i wersi oherwydd eu bod wedi colli cymaint o wersi eraill yn yr ysgol."

Er hynny, mae o'n credu bydd y cyllid newydd yn gadael i wasanaethau gyflwyno gwersi offerynnol i fwy o blant.

"Dwi'n meddwl bydd yr arian yma'n help i blant gael blas ar rai o'r offerynnau," meddai.

"Efallai cawn nhw wyth gwers ar un peth, ac wedyn rhywbeth arall - ac y gwnawn nhw setlo ar un offeryn ac wedyn parhau efo gwersi."

Meithrin traddodiad cerddorol

Yn Ysgol Bro Cinmeirch yn Llanrhaeadr, Sir Ddinbych, mae "ychydig o dan hanner" y disgyblion 7-11 oed yn cael gwersi offerynnol, yn ôl y pennaeth, Ffion Jones.

Mae'r ysgol yn ariannu cyfran o'r gwersi sy'n cael eu cynnal yno, ac mae'r pennaeth yn credu bod meithrin traddodiad cerddorol yn ehangu apêl yr ysgol yn yr ardal wledig rhwng Dinbych a Rhuthun.

Disgrifiad o’r llun,

Ffion Jones: 'Helpu ni fel ysgol i sicrhau eu bod nhw'n cael y cyfleoedd yma'

"Dwi yn gweld ers cychwyn yma bod teuluoedd yn cael eu denu yma oherwydd y cyfleoedd 'dan ni'n eu cael o ran cerddoriaeth," meddai.

"Dan ni fel ysgol a'r llywodraethwyr wedi cytuno i dalu canran o'r gwersi yn fan hyn fel bod hynny yn hybu ac yn helpu rhai o'r rhieni sydd eisiau i'w plant gael fwy o gyfleoedd.

"Maen nhw'n blant talentog sydd eisiau gwneud hynny, ac mae hynny'n ein helpu ni fel ysgol i sicrhau eu bod nhw'n cael y cyfleoedd yma."

'Lles y plant am wella'

Dywedodd Bethan Mari Williams, sy'n athrawes yn Ysgol Gynradd Cadeirlan San Joseff yn Abertawe, y byddai'n helpu lles meddyliol llawer o blant.

Disgrifiad o’r llun,

Bethan Mari Williams, athrawes yn Ysgol Gynradd Cadeirlan San Joseff yn Abertawe

"Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r plant wedi colli allan ar gyfleodd i chwarae offerynnau gwahanol ond hefyd mae lles nhw wedi cw'mpo tipyn bach oherwydd bod nhw wedi gorfod aros i fewn gymaint," meddai.

"Felly mae cydberthyniad cryf rhwng chwarae offerynnau a hapusrwydd - felly mae lles y plant am wella hefyd."

'Pawb yn gwenu'

Dywedodd Rhodri Jones, pennaeth gwasanaeth sy'n gyfrifol am gerddoriaeth yng Nghyngor Abertawe: "Dwi'n meddwl mai'r effeithiau mwyaf cadarnhaol mae hwn yn mynd i gael yw rhoi cyfle i blant unwaith eto i ddod at ei gilydd a dysgu chwarae offerynnau.

"Dros y cyfnod 'da ni wedi'i gael yn ddiweddar mae rhai [wedi bod yn chwarae offerynnau] yn unigol ond nawr wrth i ddosbarthiadau ddod yn ôl at ei gilydd bydd modd dysgu chwarae offerynnau, canu efo'n gilydd a mwynhau cerddoriaeth gyda'n gilydd unwaith eto.

"Be 'da ni 'di weld ydi wrth i blant ddysgu hefo'i gilydd a chael gafael mewn offerynnau am y tro cyntaf, mae pawb yn gwenu a mwynhau.

"Felly dyna be 'da ni wir eisiau ei weld o'r cynllun yma'n Abertawe ac ar draws Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rebecca fod "cerddoriaeth yn dod â phobl yn agosach at ei gilydd ac yn ffordd o gyfathrebu"

Dywedodd Rebecca, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant: "Rwy'n chwarae'r iwcalili gartref ac mae'n helpu i mi ymlacio, rwy'n teimlo bod cerddoriaeth yn dod â phobl yn agosach at ei gilydd ac yn ffordd o gyfathrebu."

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fydd yn cydlynu'r gwasanaeth.

Yn ôl y prif weithredwr, Chris Llewelyn: "Mae awdurdodau lleol yn credu y bydd gan blant ar draws Cymru well mynediad i offerynnau ac y bydd y cynllun hwn yn datblygu a meithrin llawer o gerddorion talentog y dyfodol."

'Pwysig i blant fod yn greadigol'

Fe fydd y cynllun yn creu "cenhedlaeth newydd o blant sydd yn joio canu offerynnau," medd y gantores Bronwen Lewis.

"Yn ystod yr argyfwng costau byw, gyda rhieni'n meddwl rhwng trydan a bwyd a lot o bobl yn defnyddio banciau bwyd, nid yw dysgu offeryn reit ar ben y rhestr i lot o bobl.

"Gall y diwydiant weld problem gyda phlant ifanc ddim yn cymryd lan cerddoriaeth - felly ma' hwn yn beth mor arbennig."

Ffynhonnell y llun, Bronwen Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn newyddion arbennig i ddyfodol cerddoriaeth yng Nghymru, medd Bronwen Lewis

Roedd y cyfle i ddysgu i ganu'r piano fel plentyn yn bwysig i'w gyrfa, medd Ms Lewis.

"Ond hyd yn oed os ni ddim yn defnyddio fe fel swydd... mae'n dda i iechyd meddwl i chwarae offeryn, a just cael yr amser 'na," meddai.

"Pan fi'n chwarae offeryn, fi'n ymlacio ac yn gallu bod yn greadigol, ac mae'n bwysig i blant allu bod yn greadigol.

"I weld y llywodraeth yn gallu ariannu yr holl beth yma, mae e just yn arbennig... just yn meddwl am ddyfodol cerddoriaeth Cymraeg, mae e'n beth really, really cyffrous."