Cynnig offeryn cerdd i blant ifanc

Bydd pob plentyn yng Nghymru yn cael cynnig offeryn cerdd i'w ddefnyddio yn yr ysgol fel rhan o Gynllun Cerdd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Prif nod y cynllun yw ei gwneud yn haws i bob plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol - yn enwedig plant o gefndiroedd difreintiedig a phlant sydd ag anghenion addysg ychwanegol.

Dywed y gantores Bronwen Lewis y bydd y cynllun yn creu "cenhedlaeth newydd o blant sydd yn joio canu offerynnau".