'Mae'r cloc yn ticio ac mae ein byd ni ar dân'

Cafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru ei lansiad swyddogol mewn lleoliad go arbennig ddydd Mercher ym mlwyddyn canmlwyddiant y mudiad ieuenctid.

Fe gafodd ei llunio gan fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a'i chyhoeddi yng Nghanolfan Heddwch Nobel, ym mhrifddinas Norwy, Oslo

Yn y neges, a gafodd ei chreu yn dilyn sesiynau gyda'r Athro Gareth Wyn Jones a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar, mae'r myfyrwyr yn galw ar wleidyddion a chwmnïau mawr i weithredu ar frys yn sgil yr argyfwng newid hinsawdd.