Neges Heddwch yr Urdd: Amser deffro i'r argyfwng hinsawdd
- Cyhoeddwyd
Mae Neges Heddwch Canmlwyddiant yr Urdd yn galw ar bobl i beidio ag anwybyddu'r argyfwng hinsawdd, gan ddweud ei bod "yn amser deffro".
Wrth nodi'r canmlwyddiant, mae myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth, sydd wedi llunio'r neges, yn teithio i ddinas Oslo yn Norwy er mwyn cyhoeddi'r rhybudd yn swyddogol.
Cafodd y neges ei chreu wedi sesiynau gyda'r Athro Gareth Wyn Jones a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar.
Yn ôl Urdd Gobaith Cymru mae neges pobl ifanc y wlad yn "haeddu cael ei lledaenu bedwar ban byd".
Dros y 100 mlynedd ddiwethaf mae pobl ifanc Cymru wedi ymdrin â sawl pwnc pwysig fel arfau niwclear, rhyfel a throseddau cyllyll wrth ledaenu y neges o heddwch ac ewyllys da.
Ond eleni, yr argyfwng hinsawdd sydd wrth wraidd y rhybudd gyda'r Urdd yn dweud nad oes modd anwybyddu sgil effeithiau'r argyfwng ar draws y ddaear.
'Rhaid gweithredu nawr'
"Fel sefydliad, mae gennym ddyletswydd i'r genhedlaeth nesaf i ddefnyddio'r llwyfan hwn i gryfhau eu lleisiau oherwydd mae rhoi llais i bobl ifanc Cymru yn ganolog i holl weithgareddau'r Urdd", meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.
"Ni allwn anwybyddu nac oedi'r argyfwng hinsawdd, ac er lles ein plant a phlant ein plant, rhaid i bawb weithredu nawr, mae hi wirioneddol yn 'amser deffro'".
Mae criw o fyfyrwyr wedi teithio i ganolfan Heddwch Nobel yn Oslo lle fydd cyhoeddiad swyddogol y neges yn digwydd yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Bu dau o'r myfyrwyr hynny, Fflur a Rhodri, yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher ac yn esbonio'r rhesymau dros ddewis newid hinsawdd fel pwnc y neges eleni.
"Dros y blynyddoedd d'wethaf ry'n ni wedi gweld effaith mawr mewn newid hinsawdd ar draws y byd a fi'n credu bod ni fel pobl ifanc efo'r llais i newid pethau ar gyfer y genhedlaeth nesaf, ac mae'r Urdd wedi rhoi cyfle i ni rannu'r neges yna gyda'r byd i gyd," meddai Fflur.
Dywedodd Rhodri ei bod yn braf rhannu profiadau ynglŷn â'r pwnc gyda myfyrwyr yn Norwy.
"Yn amlwg mae'r argyfwng hinsawdd yn broblem fawr, ac mae hynny hefyd yn wir yma yn Norwy," meddai.
"Mae'n braf clywed llais arall a'n bod ni gyd yn gytûn ar un peth."
Ychwanegodd Fflur ei bod yn ymwybodol o'r angen i bawb wneud ei ran.
"Mae angen gwneud y pethau bach yma'n gyntaf er mwyn cyrraedd y camau mawr a datrys y broblem ehangach.
"Mae angen sicrhau ein bod yn ailgylchu'n iawn a hefyd yn siarad gyda phobl am yr argyfwng yma/
"Rydyn ni falle ddim yn clywed cymaint o siarad amdano fe ar hyn o bryd ac mae angen cael sgwrs gyda phobl ifanc a rhai henach i weld beth maen nhw'n credu sydd angen ei wneud er mwyn datrys y broblem."
Yn ôl yr Urdd mae lledaenu'r neges o Norwy yn rhoi llwyfan haeddiannol i lais pobl ifanc Cymru.
Ychwanegodd Siân Lewis: "Mae llais pobl ifanc wrth wraidd gwerthoedd yr Urdd, ac mae sicrhau ein bod ni'n codi eu llais nhw drwy'n neges heddwch yn hanfodol. Maen nhw'n ysbrydoliaeth."
Mae'r neges a gwaith yr Urdd yn holl bwysig yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
"Ar adeg pan fo heddwch y byd mewn cymaint o berygl, nid yw'r neges na gwaith yr Urdd wrth groesawu ffoaduriaid i Gymru erioed wedi bod yn fwy arwyddocaol," dywedodd.
"Bydd thema'r argyfwng hinsawdd hefyd yn taro tant gyda phobl ifanc o bob cwr o'r byd wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddiogelu'r blaned fregus hon."
Wrth ymateb i'r neges eleni mae'r Urdd wedi ymrwymo i leihau ei ôl-troed carbon ac wedi llunio cynllun sero net gyda tharged i'w gyflawni erbyn 2050.
Hefyd eleni bydd yr Urdd yn agor y ganolfan breswyl amgylcheddol gyntaf i bobl ifanc yng ngogledd Sir Benfro.
Mae neges eleni ar gael mewn 100 o ieithoedd - y nifer fwyaf erioed yn ei hanes ac mae wedi ei recordio ar ffurf cân gan Lily Beau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021