'Dangos i'r byd beth all Wrecsam ei wneud'

Mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru wedi croesawu'r penderfyniad i ddynodi statws dinesig i Wrecsam.

Mae ymhlith wyth o drefi sy'n derbyn y statws fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd David TC Davies byddai'n galluogi Wrecsam i "farchnata'i hun o amgylch y byd".