Statws dinas Wrecsam yn 'gyfle' ond pryderon hefyd

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wrecsam wedi cyrraedd y nod wedi tri chais aflwyddiannus ers dechrau'r ganrif

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod cais tref fwyaf y gogledd i sicrhau statws dinas wedi llwyddo.

Mae Wrecsam ymhlith wyth o drefi sy'n cael y statws fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth.

Roedd yna 38 o geisiadau am y statws ac mae nifer y ceisiadau llwyddiannus y tro hwn yn torri record am y nifer fwyaf mewn un gystadleuaeth.

"Mae gan Wrecsam hanes rhyfeddol a dyfodol cyffrous ac rwyf wrth fy modd i'w gweld yn derbyn statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines," dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.

"Mae yna lawer eisoes i Wrecsam ymfalchïo ynddo ac rwy'n gobeithio y bydd statws dinas yn dod â rhagor o gydnabyddiaeth o bopeth sydd gan y gymuned i'w chynnig, a mwy o gyfleoedd i Wrecsam ffynnu a thyfu."

Y dinasoedd newydd eraill yw:

  • Bangor yng Ngogledd Iwerddon;

  • Dunfermline yn Yr Alban;

  • Colchester, Doncaster a Milton Keynes ar dir mawr Lloegr;

  • Douglas, prif dref Ynys Manaw, a Stanley ar Ynysoedd y Falklands - dyma oedd y tro cyntaf erioed i'r gystadleuaeth fod ar agor i diriogaethau sy'n ddibynnol ar y Goron a thiriogaethau tramor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae statws dinas yn hwb fawr i economi'r ardal, medd trefnwyr y gystadleuaeth

Roedd angen i'r ymgeiswyr ddangos "sut mae eu cymunedau unigryw a hunaniaeth leol bendant yn golygu eu bod yn haeddu cael statws dinas".

Ychwanegodd datganiad y llywodraeth bod angen hefyd i'r trefi "danlinellu eu cysylltiadau brenhinol a'u treftadaeth ddiwylliannol".

Cafodd y ceisiadau eu hasesu gan banel o arbenigwyr a gweinidogion cabinet Llywodraeth y DU, cyn i'r Frenhines dderbyn eu hargymellion.

Bydd breinlythyrau nawr yn cael eu paratoi i ddynodi'r anrhydedd yn swyddogol a bydd rheiny'n cael eu cyflwyno i'r wyth lleoliad buddugol cyn diwedd y flwyddyn.

Dyma oedd y pedwerydd tro i Gyngor Wrecsam lunio cais am statws dinas, wedi ymgyrchoedd aflwyddiannus 2000, 2002 a 2012.

'Mae Wrecsam yn le grêt i fyw'

Yn trafod y statws newydd ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd Chris Evans, sy'n Gadeirydd canolfan Saith Seren y dref ac yn athro yn Ysgol Morgan Llwyd, bod gobaith y gall helpu cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant 2025.

"Dwi'n gobeithio neith o adeiladu ar yr ysbryd bositif yn y dref, mae pethau wedi gwella lot yma dros y blynyddoedd diwetha' felly dwi'n gobeithio neith hyn ychwanegu at hynne," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Chris Evans: 'Mae'n neis i weld y Gymraeg yn tyfu yma'

"Fy ngobaith mwyaf i fel Cadeirydd Saith Seren ydi fydd o'n 'chydig bach o help tuag at ennill ein cais i fod yn Ddinas Diwylliant 2025.

"Dydi'r ddau beth ddim wedi'u cysylltu'n uniongyrchol ond gobeithio efallai bydd yn rhywfaint o help.

"Mae'n le arbennig yma'n Wrecsam. 'Dwi wedi fy ngeni a'm magu yma ac yn byw yma erioed ac fydd yn cymryd dipyn o amser i arfer efo'r enw newydd achos tref ydi Wrecsam erioed i minnau, ac ar ôl sylwadau ein Aelod Seneddol am Wrecsam Athletic ddechrau'r wythnos dwi'n dechrau amau lle dwi'n byw!

"Ond mae'r clwb yn wych, mae na bethau gwych yn y dref fel Tŷ Pawb, Focus Wales, felly mae pethau ar 'i fyny yn Wrecsam a 'da ni'n Saith Seren am brynu'r adeilad dros y misoedd nesaf felly bydd hynny'n sicrhau ein tymor hir ni.

"Mae'r dref yn meddwl y byd i mi... mae'n neis i weld y Gymraeg yn tyfu yma, mae na ysbryd gymunedol yn y dref a mae Wrecsam yn le grêt i fyw."

'Amser hir yn dod'

"Mae'n gydnabyddiaeth haeddadwy, mae o 'di bod yn amser hir yn dod," meddai Dr Sara Louise Wheeler, y bardd, llenor ac artist llawrydd sy'n hanu o Wrecsam.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Sara Louise Wheeler: 'Mae na lot o ewyllys da o gwmpas'

"'Da ni 'di gweld y math o hwb mae cydnabyddiaeth i'r clwb pêl-droed... beth sy'n gallu digwydd pan mae pobl y cael bach o hwb, ac ella fydd hyn just yn cario hynna ymlaen, 'dwi'n meddwl.

"'Dwi'n meddwl fod 'na dal lot o waith i'w wneud a mae 'na dal lot o broblemau. Oeddwn i'n gweithio draw ym Mhrifysgol Glyndwr ac yn siarad gyda myfyrwyr yna ac mi oeddan nhw reit frank ynglŷn â lot o'r probleme sy'n dal i fod yn y fro, ond mae 'na lot o ewyllys da o gwmpas.

"Os ni'n ffocysu ar y pethau iawn fel'na a ddim gwastraffu pres ar bethau gwirion mi fydd yn beth da.

"Wrth gwrs mae 'na bobl yn poeni a mae pryder os ydi am effeithio ar drethi ac ati, ac wrth gwrs mae pobl yn poeni am hynne yn enwedig ar hyn o bryd pan mae pobl just yn trio byw.

"Ond gobeithio bydd yr arian yn cael ei wario yn gall ac yn dryloyw a phawb yn gallu cyfrannu at y syniadau a beth sydd am ddigwydd yn y fro."

Yr ymateb gwleidyddol

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lesley Griffiths, Aelod o'r Senedd Wrecsam, bod angen gwneud y gorau o sicrhau statws dinas

Dywedodd Aelod o'r Senedd Llafur Wrecsam, Lesley Griffiths, ei bod wedi amau y byddai cais Wrecsam, fel "unig dref Gymreig" y gystadleuaeth, yn llwyddo y tro hwn.

"Dwi'n meddwl bod yna gyfle go iawn rŵan i Gyngor Wrecsam fachu ar ba bynnag gyfleoedd a ddaw o gael eu statws dinas a gwneud yn siŵr eu bod wir yn dangos gwerth mynd am y statws," meddai.

Ond fe ychwanegodd bod yna "deimladau cymysg" ynghylch y cais a bod angen i'r cyngor "ateb pryderon" rhai etholwyr oedd yn gwrthwynebu.

Disgrifiad,

David TC Davies yn credu fod troi'n ddinas yn gyfle da i gynyddu busnes yn Wrecsam.

Ond wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd gweinidog yn Swyddfa Cymru y byddai'r statws yn galluogi Wrecsam i "farchnata'i hun o amgylch y byd".

Aeth David TC Davies AS ymlaen i ddweud: "Mae hi fyny nawr i'r cyngor a pobl Wrecsam i ddangos i'r byd beth maen nhw'n gallu ei wneud ac dwi'n siŵr wnawn nhw ateb yr her."

Roedd yna brotest ym mis Rhagfyr, cyn i'r cyngor benderfynu bwrw ymlaen gyda'r cais. Mae rhai wedi dadlau y byddai'n gostus neu'n amharu ar gais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025.

Disgrifiad o’r llun,

Protestiodd tua 100 o bobl yn erbyn yr ymgyrch statws dinas ym mis Rhagfyr, ddyddiau cyn i'r cyngor sir benderfynu i fwrw ymlaen gyda'r cais

Fe ymwelodd beirniaid y gystadleuaeth honno â'r dref wythnos diwethaf ac mae disgwyl cyhoeddiad cyn diwedd y mis ai Wrecsam, Bradford, Durham neu Southampton fydd yn cael yr anrhydedd.

Ychwanegodd Ms Griffiths: "Yn amlwg, 'dan ni dal yn y ras i fod yn Ddinas Diwylliant 2025 ac os gawn ni hwnnw hefyd, mi fyddai wir yn helpu hybu Wrecsam mewn ffordd wych.

"Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig ydy bod gan Gyngor Wrecsam uchelgais, yn enwedig yn sgil yr holl sylw i'r ardal ers i'r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam."

Disgrifiad,

Perchennog Wrecsam, Rob McElhenney yn ymarfer ei Gymraeg ddydd Mawrth

Dywedodd un o'r cynghorwyr lleol, Carrie Harper o Blaid Cymru, byddai "llawer o drigolion yn teimlo bod y penderfyniad yn enghraifft arall eto o'r cyngor yn peidio â gwrando ar bobl leol".

Ychwanegodd, "Gyda'r argyfwng costau byw eisoes yn cael ei deimlo gan gannoedd o deuluoedd yn Wrecsam, mae angen i arweinyddiaeth y cyngor nawr fod yn onest ynglŷn â faint fydd hyn yn ei gostio y pwrs cyhoeddus."

'Lle i wneud busnes'

Roedd Casnewydd ymhlith pum lleoliad a gafodd statws dinas yn 2002 mewn cystadleuaeth i nodi Jiwbilî Aur y Frenhines.

Roedd Llanelwy yn un o'r tair dinas newydd yn dilyn cystadleuaeth gyfatebol y Jiwbilî Ddiemwnt yn 2012.

Mae ymchwil yn awgrymu, medd Llywodraeth y DU, bod statws dinas yn hwb enfawr i'r lleoliadau buddugol, gan "eu rhoi ar y map rhyngwladol fel lle i wneud busnes".

Mae economi Perth, er enghraifft, wedi tyfu 12% yn y 10 mlynedd ers dod yn ddinas yn 2012.

Pynciau cysylltiedig