Oriel luniau: Gŵyl Fach y Fro 2022
- Cyhoeddwyd
Roedd yr haul yn gwenu yng Ngŵyl Fach y Fro dros y penwythnos gyda'r dorf yn Ynys y Barri yn mwynhau cerddoriaeth byw, stondinau, crefftau a bwyd a diod ar ddydd Sadwrn 21 Mai.
Dyma rywfaint o'r golygfeydd oedd i'w gweld yno:
Qwerin yn dod â 'chydig o liw i Ynys y Barri, a'r Olwyn Fawr yn y cefndir
Roedd hi'n fwrlwm ar lan y môr gyda nifer o fandiau a chantorion. Dyma Morgan Elwy yn diddanu'r dorf
'Bach o hwne': Morgan Elwy yn mwynhau perfformio
Band ifanc Dagrau Tân o Ysgol Bro Morgannwg
Hana Lili yn perfformio
Roedd pob math o berfformiadau i ddiddanu plant ac oedolion, gan gynnwys Kitsch N Sync
Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Morgannwg yn perfformio ar lwyfan yr ysgolion
Siani Sionc yn diddanu'r ymwelwyr ieuengaf
Y dorf yn mwynhau'r haul a'r gerddoriaeth
Lily Beau yn diddanu'r dorf
Y dorf yn mwynhau awyrgylch yr ŵyl a'r adloniant oedd yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim
Un o brif actiau'r diwrnod, Huw Chiswell ar y llwyfan
MR yn perfformio i gloi yr ŵyl