Dymchwel trosffordd Caernarfon: Beth ydy'r farn yn lleol?
Gallai trosffordd sy'n torri trwy ganol tref Caernarfon gael ei dymchwel am fod costau i'w chynnal yn rhy ddrud.
Mewn ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol, mae'n debyg fod nifer o bobl leol o blaid cael gwared arni.
Cafodd y drosffordd ei hadeiladu yn yr 1980au i leddfu tagfeydd traffig, ond i lawer, roedd yn ddolur llygad ac yn gwahanu ardal Twthill a chanol y dre'.
Ond gan fod y ffordd osgoi newydd wedi agor, mae llai o draffig ar hyd y lôn. Mae Cyngor Gwynedd felly yn ystyried dyfodol y drosffordd.
Dywedodd y cyngor fod angen rhagor o waith ymchwil a chyllid cyn gwneud penderfyniad.
Mae'n amlwg mai cymysg ydy'r farn yn y dref am beth i'w wneud gyda'r drosffordd, fel eglurodd rhai o drigolion Twthill i Elen Wyn o Newyddion S4C.