Cerbydau cyntaf wedi gyrru ar ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd

  • Cyhoeddwyd
Gwrthdrawiad ffordd osgoiFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu fod pedwar cerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad

Wedi degawdau o dagfeydd a chwynion lleol mae ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd, yr A487, wedi agor i draffig fore Sadwrn.

Roedd yr agoriad ddiwrnod yn hwyrach na'r disgwyl oherwydd Storm Eunice.

Ond o fewn oriau o agor bu rhan ohoni ynghau rhwng Bontnewydd a Chaernarfon yn dilyn gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd, cyn iddi ailagor tua 14:45.

Dywedodd yr heddlu fod pedwar cerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, ond mai "mân anafiadau" oedd gan y rheiny fu'n rhan ohono.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nod y lôn newydd ydy lleihau tagfeydd ym Montnewydd a Chaernarfon

Dywed Llywodraeth Cymru fod y cynllun gwerth £139m wedi ei gwblhau ar amser gan bod gweithwyr wedi parhau i weithio drwy gydol y pandemig.

Mi fydd y lôn newydd yn lleihau tagfeydd ym Montnewydd a Chaernarfon ac yn lleihau amseroedd teithio i yrwyr fydd yn teithio i ac o Ben Llŷn a Phorthmadog.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna gyfle i blant ysgolion yr ardal fod yn rhan o'r agoriad ddydd Iau

Ddydd Iau fe gynhaliwyd agoriad swyddogol ac fe gafodd plant ysgolion lleol gyfle i dorri rhuban y lôn newydd.

Mae'r frwydr i godi'r ffordd osgoi yn ymestyn mwy na degawd gydag ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal yn 2010.

Wedi hynny a nifer o ddyluniadau, fe gymeradwyodd Llywodraeth Cymru'r cynllun yn 2018 ac fe ddechreuodd y gwaith flwyddyn yn ddiweddarach.

'Diwrnod emosiynol'

"Mae'n ddiwrnod pwysig ofnadwy ac yn reit emosiynol," meddai Elgan Ellis, Rheolwr Prosiect Ffyrdd cwmni adeiladu Jones Bros.

Disgrifiad o’r llun,

Mae agor y ffordd i draffig yn gam pwysig ac emosiynol, medd Elgan Ellis

"Mi 'neith hyn lot o wahaniaeth, mae'r traffig yng Nghaernarfon 'ma, wel mae pawb yn gwybod am y problemau traffig ac mae pawb yn yr ardal yn falch iawn."

Yn ôl Mr Ellis roedd y gwaith hefyd yn bwysig i'r economi leol gyda 93% o'r gweithlu yn byw yng ngogledd Cymru, a 31% o fewn radiws 10 milltir i'r safle.

Disgrifiad o’r llun,

'Fues i'n ffodus iawn i gael fy newis yn beiriannydd dan hyfforddiant,' medd Gwion Lloyd o Harlech

Yn eu plith roedd Gwion Lloyd, peiriannydd dan hyfforddiant o Harlech. Hon oedd ei swydd gyntaf.

"Mae'n brofiad da, 'da ni 'di bod yma ers tair blynedd rŵan ac mae 'na dipyn o waith 'di mynd mewn iddo.

"'Swn i methu cael job gwell i ddechrau - dwi'n falch bod nhw 'di dewis fi. Doedd genai ddim profiad pan 'nes i ddechrau, dwi'n prowd iawn o be dwi 'di gyflawni."

Ffeithiau am y ffordd osgoi

  • 93% o'r gweithlu o ogledd Cymru;

  • Cyflogwyd 36 o raddedigion a phrentisiaid a 15 ar brofiad gwaith;

  • Prosiect gwerth £139m;

  • Mae'r lôn yn ymestyn am 9.8km (6 milltir) o gylchfan Plas Menai i gylchfan y Goat;

  • Tri chylchfan newydd ym Meifod, Cibyn a Bethel;

  • Cynllun priffyrdd mwyaf yn y gogledd;

  • Tua 170,000 o goed wedi eu plannu;

  • 20km o wrychoedd newydd.

Gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bwyslais nag erioed o'r blaen ar gynlluniau ynni gwyrdd mae cynlluniau ar gyfer ffyrdd osgoi a chynlluniau i newid lonydd wedi cael eu canslo ar draws y wlad yn ddiweddar - yn eu plith ffordd osgoi Llanbedr ac yn ddiweddar penderfynwyd peidio â bwrw mlaen â newidiadau i gylchfannau'r A55, a chyn hynny ffordd liniaru'r M4.

Gyda hynny mewn golwg mae'r Aelod o'r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian yn dweud ei bod hi'n falch fod y gwaith wedi ei gwblhau.

"Mae o'n mynd i wneud byd o wahaniaeth i'r bobl sy'n byw ar y lôn," meddai.

"Yn enwedig dros gyfnod yr haf, mae o am wella ansawdd bywyd pobl yr ardaloedd yn ddirfawr.

"Pan ddechreuwyd son am y lôn doedd yr her newid hinsawdd ddim yn amlwg - erbyn hyn mae 'na fwy o fuddsoddiad mewn bysiau a rheilffyrdd.

"Ond 'da ni'n falch bod y ffordd yma - y gwir amdani ydy y byddwn ni dal angen ffyrdd ond gobeithio yn y dyfodol bydd pobl yn teithio mewn ceir trydan."

Ychwanegodd fod 'na angen am fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal wrth symud i ffwrdd o ddatblygu lonydd newydd.

Mae'r lôn newydd wedi ei dylunio gyda phwyslais hefyd ar deithio heb geir - mae ardaloedd penodol i feicwyr a cherddwyr groesi a defnyddio'r lôn yn ddiogel.

'Methu'r loris a'r bysys'

Er y croeso cynnes mae 'na ansicrwydd yn lleol hefyd ac i Alun Jones, sydd wedi byw ar y lôn ym Montnewydd ers dros hanner canrif, mae'n poeni am effaith y ffordd osgoi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Jones sy'n byw ym Montnewydd yn pryderu am ba mor dawel fydd hi yn sgil y ffordd osgoi

"Dwi'n cofio'r lôn yma heb oleuadau a dim marciau gwyn ar y lôn," meddai.

"Mae gynnon ni un siop fach, siop chips a thŷ tafarn, dwi'n meddwl bydd y rheiny'n colli lot gan mai trafnidiaeth yn pasio ydy lot - pobl yn dod yma ac yn mynd 'nôl i Loegr hefyd.

"Loris a bysys ydy fy mywyd ac mi 'nai fethu nhw'n mynd heibio.

"Ond pwy a wŷr falle fyddai'n gallu bwyta fy uwd ganol y lôn yn y bore - fydd hi mor dawel!"

Yn ôl Llywodraeth Cymru mi fydd y lôn yn gwella tagfeydd ac ansawdd aer yn yr ardaloedd dan sylw.

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn ddiolchgar i bawb a wnaeth y cynllun yn bosib.