Yr Urdd 'wedi troi'r gornel' wedi'r pandemig

Mae'r Urdd "mewn lle positif" ac yn edrych tua'r dyfodol gyda hyder, medd trefnwyr ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Sir Ddinbych 2022.

Cadarnhaodd y trefnwyr bod gŵyl eleni, ar gyrion Dinbych, wedi denu mwy o ymwelwyr nag erioed, sef "ymhell" dros 113,000.

Cafodd y mudiad ieuenctid, sy'n dathlu eu ganmlwyddiant eleni, nawdd sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynnig mynediad am ddim i'r Maes eleni.

Fe wynebodd yr Urdd heriau sylweddol yn sgil y pandemig a bu'n rhaid gohirio'r Eisteddfod am ddwy flynedd. Fe gafodd hynny effaith at lefelau staffio.

"Cyn Covid roedd ein gweithlu ni yn 321," meddai'r prif weithredwr Siân Lewis.

"Naethon ni ollwng lawr i 274 - gollon ni 46% o'n gweithlu. Erbyn heddiw mae yna 309 o staff yn gweithio i'r Urdd, felly 'dan ni fwy neu lai'n ôl lle oedden ni."