Nifer fwyaf erioed o ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen - 118,000 - wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd eleni, medd y trefnwyr ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Sir Ddinbych 2022.
Roedd yna fynediad am ddim i'r ŵyl eleni ar gyrion Dinbych - Eisteddfod lawn gyntaf yr Urdd ers cyn y pandemig - wedi i Lywodraeth Cymru roi £527,000 i gefnogi'r mudiad ieuenctid wrthi iddo ddathlu ei ganmlwyddiant.
Mae'r nifer ymwelwyr yn torri'r record a sefydlwyd y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal heb godi tâl mynediad i'r Maes - ym Mae Caerdydd yn 2019.
Bydd yna drafodaethau nawr wrth i'r golygon droi at baratoi ar gyfer Eisteddfod y flwyddyn nesaf yn Llanymddyfri.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, bod y mudiad nawr yn gallu edrych tua'r dyfodol gyda hyder yn dilyn heriau'r pandemig ar ddiwedd "wythnos hynod lwyddiannus".
"Mae e wedi bod yn 'Steddfod i bawb, mae o wedi bod yn llwyfan i bawb," meddai. "'Dan ni wedi gweld gymaint o wynebe newydd yn cyrraedd y maes ac yn mwynhau'r diwylliant Cymreig ar ei ora' fan hyn wythnos yma."
Mae'r Urdd "mewn lle cadarn heddiw", meddai, ac yn "symud at y dyfodol yn bositif. "Mi oedd 'na heriau yn ystod Covid... ond 'dan ni wedi troi'r gornel".
"Gollon ni weithlu [ond] mae gweithlu'r Urdd erbyn heddiw'n ôl bron i lle oedd o cyn Covid a trosiant yr Urdd yn sicr yn symud i'r cyfeiriad iawn."
Mae'r newidiadau i drefniadau'r Eisteddfod eleni, gan cynnwys tri phafiliwn a dim rhagbrofion, "wedi gweithio ar y Maes eleni [a] bydden ni'n asesu a gwerthuso rheina wrth symud ymlaen".
Ychwanegodd eu bod "yn sicr yn awyddus i barhau i esblygu'r Eisteddfod er mwyn bo ni'n gallu cynnig yr Eisteddfod i bawb".
'Mae 'di bod yn 'Steddfod wefreiddiol'
Bu'n rhaid gohirio Eisteddfod eleni ddwywaith oherwydd y pandemig.
"Mae'n anodd disgrifio sut mae rhywun yn teimlo," dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith, Dyfan Phillips ddydd Sadwrn.
"Mae' di bod yn wythnos anhygoel. Ma' rhywun yn paratoi gym'int ac yn edrych ymlaen ond mae 'di bod yn 'Steddfod wefreiddiol wsos yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021