'Dangos y drymiau a ga'l bach o hwyl yn eu cwmni'

Roedd yn hysbys y byddai Dug a Duges Caergrawnt yn dyst i'r ymarferion olaf ar gyfer cyngerdd yng Nghastell Caerdydd brynhawn Sadwrn fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines.

Ond doedd neb wedi rhagweld y byddai'r Tywysog William a Kate Middleton yn dod â'u dau blant hynaf gyda nhw.

Dyma oedd ymweliad swyddogol cyntaf y Tywysog George a'r Dywysoges Charlotte â Chymru.

Bu'n teulu brenhinol yn sgwrsio â rhai o'r perfformwyr oedd ar fin cymryd rhan yn y cyngerdd.

Yn eu plith roedd y cyflwynydd tywydd Owain Wyn Evans, sydd bellach yr un mor adnabyddus erbyn hyn am ei ddawn fel drymiwr a'r holl arian y cododd dros elusen Plant Mewn Angen y llynedd.