Owain Wyn Evans yn codi dros £3m ar ôl drymio am 24 awr

  • Cyhoeddwyd
Owain Wyn EvansFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu Owain Wyn Evans yn drymio am dros 24 awr i godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen

Mae cyflwynydd tywydd y BBC Owain Wyn Evans wedi torri record Plant Mewn Angen am gasglu arian, gan godi dros £3m ar ôl chwarae'r drymiau am 24 awr.

"Fi just ffaelu credu bo fi 'di gorffen e i fod yn onest," meddai'n ar Dros Frecwast fore Llun, ar ôl gorffen yr her ddydd Sadwrn.

"Mae'r breichiau'n iawn, mae 'nghefn i bach yn sore, ond o'dd e just mor anhygoel."

Hwn oedd her 24 awr fwyaf llwyddiannus yr elusen erioed.

Roedd y cyflwynydd, sy'n wreiddiol o Rydaman, mewn dagrau wrth i'r cyfanswm arian gael ei ddatgelu ar raglen BBC Breakfast fore Llun.

Roedd band y Llynges Frenhinol ac aelodau o gerddorfa ffilharmonig y BBC yn rhan o'r digwyddiad, yn ogystal â drymwyr enwog fel Harry Judd - drymiwr y band McFly - a'r Fonesig Evelyn Glennie.

Dywedodd Owain Wyn Evans fod y profiad wedi bod yn "anhygoel".

"Beth o'dd 'di neud e bach yn anoddach oedd o'n i'n cyflwyno rhaglen am gerddoriaeth essentially am ddiwrnod cyfan hefyd ar yr iPlayer, so o'dd e just yn brofiad anhygoel."

Disgrifiad,

Perfformiodd Owain Wyn Evans gerddoriaeth newyddion y BBC yn ystod y drymathon

Bu'n rhaid iddo stopio am seibiau a gofal meddygol am anafiadau roedd wedi datblygu wrth chwarae yn ystod y 24 awr.

"Sawl gwaith yn ystod yr holl beth o'n i'n meddwl, 'Be fi 'di neud?' 'Ydy hwn yn rhywbeth call?' 'A fyddai'n gallu gorffen?'

"Achos ar ôl tua dwy awr o'dd fy mreichiau i'n dechrau ache-o. Ond wedyn wrth gwrs o'n i jyst yn clywed am y negeseuon o'dd pobl yn anfon ac oedd pobl just yn rhoi arian.

"Mae hwnna'n lot o bobl yn texto mewn a mae hwnna'n lot o bobl yn mynd ar y wefan, so o'dd hwnna really wedi cadw fi 'mlaen. O'n ni just ffaelu credu fe."

Dechreuodd y drymathon yn chwarae cân gan Celine Dion ddydd Gwener, a gorffennodd yn chwarae 'Baby One More Time' gan Britney Spears.

"O'n i moyn dangos bod unrhyw un yn gallu bod yn ddrymiwr. Bod dim rhaid i chi edrych ffordd benodol neu fod yn certain math o berson. Ma' pawb yn gallu bod yn rhywun sy'n chwarae drums".

Pynciau cysylltiedig